MAE hanner canrif bellach ers i recordiau Cwm-Rhyd-y-Rhosyn gan Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones gael eu cyhoeddi gyntaf. Digon o achlysur i’r Mentrau Iaith ddathlu’r gyda llwybr arbennig trwy fyd hudol y Cwm ar eu stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Bydd y llwybr trwy’r Cwm i’r teulu cyfan ac yn brofiad aml-synhwyrol sy’n ail-greu plentyndod cenedlaethau o blant Cymru ac yn cyflwyno’r Cwm i genhedlaeth newydd. Bydd ymwelwyr yn cael eu tywys trwy ardaloedd gwahanol y Cwm i sain caneuon a straeon y bytholwyrdd Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones.

Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Iaith Maldwyn gafodd y syniad i ddechrau – yn un o blant Cymru sydd wrth ei bodd gyda’r recordiadau.

Medd Rhian: “Dychmygwch ddringo mewn i ogof Caradog y Cawr, neu grwydro trwy Goedwig Frest Pen Coed a chael cip ar Dderyn y Bwn, Jac-y-Do, y robin goch a’r titw, neu deimlo gwynt y môr wrth agor cil drws y Tŷ Bach Twt.

“Mae recordiau Cwm Rhyd-y-Rhosyn yn gist drysor o syniadau a phosibiliadau llawn dychymyg ac maen nhw’n parhau i fod ymysg y recordiadau Cymraeg mwyaf poblogaidd hyd heddiw.”

Heledd Rees, dylunydd set profiadol sy’n creu’r llwybr a’r ddawnswraig Angharad Harrop sy’n hyfforddi’r bobl ifanc fydd yn tywys pobl trwy’r byd hudol ar y stondin gan hefyd ddefnyddio iaith arwyddion Makaton i gyd-fynd â’r caneuon. Mae’r stondin yn hygyrch i bawb.

Mae Heledd wedi dylunio’r set fel y bod yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Ac mae ysgolion anghenion arbennig ar draws Cymru wedi cael gwahoddiad i’r stondin gan gynnig blaenoriaeth iddyn nhw ar y dydd Mawrth, sef diwrnod cystadlaethau’r ysgolion arbennig.

Mae Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones, tadau – neu deidiau bellach – y recordiau, wrth eu boddau â’r syniad.

Meddai Dafydd, “Rydym ni wrth ein boddau’n gweld bod y caneuon a’r straeon dal yn boblogaidd iawn ac yn ysbrydoli prosiectau fel hyn.

“Hoffwn longyfarch y criw ar ddod fyny efo syniad penigamp.”

Ychwanegodd Edward, “Gawsom ni’n dau lond trol o hwyl yn recordio Cwm-Rhyd-y-Rhosyn hanner can mlynedd yn ôl a dyma gyfle gwych i rannu’r hwyl gyda phlant o bob oedran yn yr Eisteddfod.

“Er mod inne yn nês i 80 oed na dim byd arall dwi’n dal i fod yn blentyn yn aml! Mae’r cyffro i’w deimlo’n barod ac rydym yn edrych ymlaen at gerdded trwy’r Cwm ar stondin Mentrau Iaith Cymru.”

Medd Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau Mentrau Iaith Cymru: “Prif nod y Mentrau Iaith yw hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – a pa ffordd well i wneud hynny na thrwy gyfrwng y caneuon sydd wedi bod o gymorth i genedlaethau o blant i ddysgu’r iaith.

“Mae’n hysbys fod canu a hwiangerddi yn ffordd allweddol o ddysgu a throsglwyddo cyfoeth iaith i’r genhedlaeth nesaf. Ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n harianwyr a’n partneriaid am eu cyfraniadau hael at y prosiect.”

Ariennir y prosiect trwy grant Creu Bach Cyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Gwendoline a Margaret Davies a Rhieni Dros Addysg Cymraeg.

Yn ogystal â hynny mae cwmni Sain, Mudiad Meithrin, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn bartneriaid allweddol y prosiect trwy gyfrannu adnoddau gwerthfawr i sicrhau llwyddiant y prosiect gan gynnwys gwaith adeiladu rhannau mawr o’r set trwy Tony Thomas a Jason Jones o’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Tŷ Bach Twt yn rhodd gan gwmni Outdoor Toys ym Maldwyn. Ac yn fonws i hyn bydd y llwybr trwy’r Cwm hefyd yn y Pentref Plant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd agoriad mawr y llwybr gyda Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones ar 27 Mai am 11yb ar stondin Mudiad Meithrin fydd drws nesaf i stondin y Mentrau Iaith. Mae croeso mawr i bawb ddod i’r digwyddiad hwn. Bydd y llwybr ar agor trwy’r dydd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd (27 Mai – 1 Mehefin).

Gallwch archebu slot i fynd trwy’r Cwm trwy’r calendr yma.