GYDA chlwb pêl-droed Wrecsam wedi dathlu dyrchafiad i Adran Un, mae S4C wedi bod yn dilyn Cymry Cymraeg sy’n cefnogi’r cochion ar gyfer cyfres newydd o Wrecsam: Clwb Ni ar S4C.

Bydd y gyfres tair rhan fydd yn dechrau heno am 9pm yn edrych yn ôl ar y misoedd cyffrous diwethaf trwy lygaid rhai o gymeriadau'r gyfres gyntaf, ac yn cwrdd â ffans newydd sydd wedi cwympo mewn cariad gyda'r clwb.

I Cled Ashford, mae clwb pêl-droed Wrecsam yn ei waed. Ar hyd ei flynyddoedd fel sgowtiwr yn y gogledd-ddwyrain, mae o wedi darganfod talentau disglair fel Ian Rush, Barry Horne a Michael Owen.

Cledwyn Ashford
Cledwyn Ashford (S4C)

“Fy rôl ar y funud yw y ‘biggest volunteer on earth’ - dwi’n neud popeth ‘di neb arall yn neud; mae hynny’n cynnwys sgowtio o gwmpas y lle i gael hogie i mewn i’r tîm. Dwi’n mwynhau o. 

“Dwi wedi bod yn sgowtio ers y cyfnod pan oedd Bryan Flynn yn rheolwr, dros 20 mlynedd yn ôl, ac wedi bod yn sgowtio i’r academi ers blynyddoedd. Dros ryw 10 mlynedd dwi wedi bod yn fwy involved efo’r tîm ieuenctid a’r academi, yn gweithio o fewn y clwb o ran lles ac addysg, ac yn gwirfoddoli ar ddyddiau Sul pan mae’r Academi’n chwarae.”

Yn ôl Cled, mae’r llwyddiant y mae’r clwb wedi’i brofi wedi cael effaith fawr ar recriwtio chwaraewyr newydd: “Mae pethau wedi altro lot yn ddiweddar.

“Den ni dal o dan yr un pressures ag o’r blaen - mae Wrecsam yn hollol wahanol i Gaerdydd ac Abertawe – dan ni mor agos at Everton, Lerpwl, Man City, Man Utd – mae ganddoch chi’r clybiau mawr ma dros y ffin i ogledd Cymru; wrth gwrs, mae eu pull nhw wastad wedi bod yn aruthrol o gry’, ac mae o’n dal ‘run fath. 

“Yn sicr ers i ni fynd o’r National League i League 2, a rŵan i League 1 mae pobl yn cymryd fwy o sylw. Felly pan ‘dan ni’n chwilio am chwaraewyr newydd, mae’n sicr o fantais bod ni lle rydan ni. Mae 'na lot o hogie o’r Premier a’r Championship yn dod aton ni ar dreialon.

Wrexham
(S4C)

“Ond mae ‘na ochr arall i hynna hefyd; mae’n anoddach i hogie lleol gael lle am fod y safon wedi codi gymaint. Eleni den ni wedi gneud yn dda iawn, mae 'na 4 o hogiau yn yr academi wedi cael Pro Contract i fynd efo’r tîm cyntaf y flwyddyn nesa’, felly mae hynna’n llwyddiant ynddi’i hun.”

Daeth y dref i sylw’r byd yn 2020 wrth i’r newyddion am actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam hawlio’r penawdau a chyrraedd cyfryngau cymdeithasol byd eang. Dros nos, daeth y partneriaid busnes o Ganada ac America yn llysgenhadon byd enwog i Wrecsam ac i Gymru.

Mae enwogrwydd y clwb yn denu ymwelwyr newydd o bell i’r dref, ac wedi creu cyfeillgarwch newydd i ambell un.

Mae Neil Jones, sy’n wreiddiol o Gaernarfon wedi byw yn Wrecsam ers dros 20 mlynedd, ac wedi bod yn dilyn y clwb ers 18 mlynedd.

Dwy flynedd yn ôl fe gwrddodd â Bud yn nhafarn y Turf yn Wrecsam. Roedd Bud, sy’n byw yng Nghanada draw yn Llundain gyda’i waith, ac wedi iddo sylwi bod gêm yn Wrecsam yr un adeg, penderfynu mynd i’w gwylio:

“Na’th o ddweud bod ganddo unlle i aros y noson honno gan fod hotels y dref i gyd yn llawn,” meddai Neil, “felly nes i ddeud wrtho base fo’n cael aros yn y stafell sbâr. A ‘dan ni’n fêts ers hynna. Mae o’n dod drosodd bob blwyddyn, ac yn aros efo ni. Weithiau mae o’n ymuno efo ni ar-lein i wylio gemau hefyd.”

Mae’r cyfeillgarwch yn sgil perthyn i ‘deulu’ cefnogwyr y tîm wedi bod o gymorth i Neil wrth iddo brofi newid yn ei fywyd:  “Dwi wedi bod efo season ticket ers pedair blynedd rŵan. Mae ‘na lwyth ohonon ni’n mynd i’r gemau - mae’n neis cael criw mawr o ffrindiau diolch i’r clwb.

“Nes i orffen yn yr army ar ôl 24 mlynedd haf llynedd, a nes i ddechrau job newydd yn Wrecsam. Yn lwcus iawn, o’dd o’n transition neis. Mae lot o filwyr yn stryglo efo peidio cael y camaraderie ‘na ar ôl iddyn nhw orffen yn y fyddin; maen nhw ar ben eu hunain ac yn teimlo ar goll. Ond mae hyn wedi golygu bod gen i lwyth o ffrindiau o’m cwmpas i.”

Mae Neil wedi addasu'i garej i'r hyn mae’n ei alw’n ‘man cave’. Bwriad gwreiddiol y lle oedd i gadw trugareddau’r clwb a chwarae darts, ond mae wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn gyrchfan i griw da o gefnogwyr Wrecsam cyn bob gêm.