DWY ffrind, Rhiannon Lloyd Williams a Sioned Medi Evans, sydd wedi creu’r gyfrol wreiddiol, liwgar, Cant a Mil o Freuddwydion a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Y Lolfa.

Dechreuodd y cyfan fel prosiect ar y we ym mis Medi 2019  – Rhiannon yn ysgrifennu a Sioned yn darlunio, wedi i’r ddwy sylwi bod prinder straeon cyn cysgu i blant.

Dywedodd Sioned: “Mae’n anodd credu bod bron i bum mlynedd wedi hedfan heibio ers i mi a Rhiannon ddechrau cydweithio gyda’n gilydd, y ddwy ohonom ni’n frwd i ddatblygu ein crefft fel awdur a darlunydd gan greu straeon cyn cysgu i blant.”

Mae’r ddwy wedi llwyddo i greu cyfrol gyffrous, ddeniadol, gyda chymeriadau a sefyllfaoedd cwbl Gymreig. Mae’r straeon hefyd yn cynnwys cymeriadau sy’n cael eu tangynrychioli, boed hynny oherwydd hil, anabledd neu rywedd rhieni.

Dyweda Rhiannon ei bod hi’n falch bod Sioned a hithau wedi gwireddu breuddwyd wrth “greu straeon llawn hud ac antur”  efo’i gilydd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys 10 stori amrywiol sy’n berffaith i’w darllen cyn cysgu.

Er hyn, byddai’r delweddau bywiog ac arddull hawdd i ddarllen hefyd yn apelio at blant hynach i ddarllen yn annibynnol er mwyn cael cant a mil o freuddwydion hapus.