Browse
Your Cambrian News Online
Homes supplement
Winter on Wheels
Head Office
|
|
Cambrian News Ltd 7 Aberystwyth Science Park, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH |
Our other publications:
Y Cymro
Y Dydd
County Echo
Holidaymaker
Comment
Y Cymro di-nod a drodd gwrs y rhyfel

Gyda Lyn Ebenezer
Wyddwn i ddim pwy oedd Glyndwr Michael tan yr wythnos ddiwethaf. Fel yr awgryma’i enw, Cymro oedd e ac fe chwaraeodd ran flaenllaw mewn newid cwrs yr Ail Ryfel Byd yn 1943. Na, doedd e ddim yn swyddog milwrol. Yn wir, doedd e ddim hyd yn oed yn filwr o unrhyw fath. Cystal nodi mai meddwyn oedd e, un o wehilion cymdeithas. Ond nawr, diolch i dystiolaeth newydd, caiff ei gofio fel un a fu’n allweddol yn y frwydr i orchfygu Hitler.
Yn 1943 roedd byddinoedd y Cynghreiriaid yn paratoi i lanio ar draethau Sicily. Ond roedd hi’n bwysig twyllo byddinoedd Hitler mai Gwlad Groeg, Sardinia a De Ffrainc oedd targedau’r Cynghreiriaid. A dyma greu Operation Mincemeat, cynllwyn i dwyllo’r Axis.
Pensaer Operation Mincemeat oedd Ewen Montagu, swyddog gyda’r Llynges. A chredir mai’r ymennydd mawr y tu ôl i’r twyll oedd Ian Fleming, creawdwr cymeriad James Bond, wrth gwrs. Y syniad, yn syml, oedd cipio corf marw, gwisgo’r corf hwnnw mewn lifrai swyddog Morfilwr Prydeinig, gosod yn ei bocedi gynlluniau’n cyfeirio at ymosodiad ar Wlad Groeg, Sardinia a De Ffrainc a’i ollwng i arnofio ar y môr. Ymddangosai iddo gael ei ladd wedi i’w awyren gael ei saethu i lawr dros Fôr Iwerydd.
Ar 30 Ebrill 1943 canfuwyd y corff, a gariai ddogfennau’n ei enwi fel William Martin gan bysgotwr Sbaenaidd. Aeth ei bapurau i ddwylo’r Almaenwyr ac fe wnaethon nhw lyncu’r stori’n llwyr. Tra bu’r Axis yn canolbwyntio ar y mannau anghywir, glaniodd y Cynghreiriaid ar draethau Sicily. Collwyd 7,000 o filwyr, ond roedd hynny lawer yn llai na’r colledion a fyddai wedi digwydd fel arall.
Ond pwy oedd Glyndwr Michael? Ganwyd ef yn Aberbargoed yn 1909. Glöwr oedd ei dad, Thomas ac roedd ei fam, Sarah yn anllythrennog. Wnaethon nhw ddim priodi. Dirywiodd iechyd y tad, a phan oedd Glyndwr yn ddeg oed, bu’n dyst i hunanladdiad ei dad. Trywanodd ei hun yn ei wddf â chyllell, a bu farw bedwar mis yn ddiweddarach mewn gwallgofdy. Yn fuan wedyn bu farw’r fam.
Gadawodd Glyndwr am Lundain lle trodd at yfed trwm a chysgu ble bynnag y medrai. Canfuwyd ei gorff ar Ionawr 28 1943 yn ardal King’s Cross. Roedd e’n 34 mlwydd oed. Dygwyd ei weddillion i Gorffdy St Pancras lle canfuwyd iddo farw o fwyta gwenwyn llygod. Gyda chydweithrediad pennaeth y corffdy, ffugiwyd ei enw a’i droi yn William Martin. Yna cadwyd ei gorff mewn oergell tan yr adeg addas. Ar ei dystysgrif marwolaeth nodwyd iddo farw o niwmonia.
Yn ôl yr awdurdodau, cysylltwyd â pherthnasau Glyndwr a dywedwyd wrthynt y cai ei gorff ei ddefnyddio ‘at bwrpas gwerth chweil’. Cafwyd caniatâd y teulu, ar yr amod na chai enw iawn yr ymadawedig ei ddatgelu. Ond na, celwydd noeth oedd hyn. Ni ofynnwyd caniatad neb. Roedd Glyndwr, druan, yn berffaith ar gyfer y cynllwyn. Doedd ganddo ddim teulu na neb i hyd yn oed ei gofio.
Mae’n debyg i’r enw Operation Mincemeat gael ei fabwysiadu o ganlyniad i awgrym Montagu, a hynny am y rheswm syml bod Mincemeat yn golygu cig marw. Dyna ddweud popeth am synnwyr hiwmor Montagu. Crëwyd cefndir newydd iddo i gyd-fynd â’i enw newydd. Gwisgwyd ef mewn lifrau Morfilwr ac yn ei bocedi gosodwyd dogfennau addas. Rhaid oedd bod yn gredadwy gan y gwyddai Montagu y gwnâi’r Almaenwyr astudio’r dystiolaeth a chefndir y dyn marw yn fanwl. Yn wir, crëwyd i ‘Martin’ gefndir a phersonoliaeth newydd. Cafodd enw canol, nodwyd ei grefydd, ei hoffterau a’i gasbethau, tref enedigol, cefndir milwrol, enw’i reolwr banc a’i dwrne.
Trodd Glyndwr Michael yn Gapten (Uwchgapten Gweithredol) William ‘Bill’ Martin, o’r Morlu Brenhinol, gyda cherdyn adnabod rhif 148228. Er mwyn i’w lifrai ddangos traul, fe’i gwisgwyd gan swyddog o’r Awyrlu am dri mis.
Pan oedd y cynllwyn yn barod i’w weithredu, gosodwyd ym mhocedi ‘Martin, groes fach arian, medal Sant Christopher, llyfr stampiau, pensil, allweddi a thocyn bws gwerth dwy geiniog. Yna cofiwyd nad oedd unrhyw gyfeiriad at gariad. Tynnwyd lluniau o ferch a weithiai yn MI5 a’i henwi’n Pam. Gosodwyd y lluniau ynghyd â llythyron caru oddi wrthi ymhlith ei eiddo.
Ar 15 Ebrill 1943 gosodwyd corff ‘Martin’ mewn llong danfor a’i ollwng i’r môr mewn man cyfleus. Cyn mordaith olaf y Cymro di-nod cysylltwyd â Winston Churchill i’w hysbysu o’r cynllwyn. Esboniwyd wrtho y gallai popeth fynd o chwith. Ei ateb oedd: ‘Os hynny, rhaid i ni ail-feddiannu’r corff a’i ollwng i nofio unwaith eto.’
Hyd yn awr roedd hanes anhygoel Glyndwr Michael yn dal yn gyfrinach. Do, fe gyhoeddwyd nofel a ffilm wedi eu seilio ar y stori o dan y teitl, ‘The Man that Never Was’. Ond ddim ond nawr y cafwyd caniatâd i adrodd y stori’n fanwl a ffeithiol.
Mae hi’n stori anhygoel sy’n darllen fel un o nofelau Ian Fleming.
A dyna’i chi eironi. Yn ei fywyd doedd Glyndwr Michael, druan yn neb. Heddiw, 67 mlynedd wedi iddo farw’n unig yn King’s Cross, mae e’n arwr. Ond welwch chi ddim o enw Glyndwr Michael – na William Martin chwaith – ar unrhyw gofgolofn.
(Operation Mincemeat gan Ben Macintyre, Bloomsbury, pris £16.99)
Weather
Visit our Picture Gallery
Y Cymro Ar-lein
County Echo Online
RSS Feeds
Get the latest news as it happens, direct to you.
What are RSS Feeds?





Comments