Browse

Your Cambrian News Online

Homes supplement

Winter on Wheels

Head Office

Tindle Crest

Cambrian News Ltd
7 Aberystwyth Science Park,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3AH

Our other publications:

News Archive RSS Icon

Yr haul yn tywynnu'n braf ac unlle gwell am dalentau

03 June 2010

YR OEDD yr haul yn tywynnu ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu yn Llanerchaeron ddydd Llun, a phrofodd yn atyniad i filoedd o Eisteddfodwyr.

Ymysg prif enillwyr y dydd roedd Judith Musker Turner, merch leol 17 oed o Ffair Rhos a gipiodd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg. Cyflwynir y fedal hon yn flynyddol am yr eitem orau yn yr adran gelf gan rai o dan 18 oed. Mae Judith ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Uwchradd Tregaron ac yn astudio Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Hanes a Thecstiliau. Ar ôl gorffen ei Lefel A, ei gobaith yw mynd yn ei blaen i astudio cwrs Sylfaen Celf yng Nghaerfyrddin, ac yna efallai cyfuno ei diddordebau trwy fynd i brifysgol i astudio’r Clasuron.

Ffrog aur drawiadol oedd y darn a gydiodd yn nychymyg y beirniaid eleni. Dywedodd Judith fod cael ei anrhydeddu am ei gwaith, a hynny yn ei hardal enedigol, yn brofiad arbennig iawn. Yn goron ar y cyfan, roedd wedi gwirioni fod y fedal ei hun, a roddwyd gan Glwb Cinio Aberystwyth, wedi cael ei gwneud yn Nhregaron.

“Rwy’n cael fy nylanwadu gan wahanol ddiwylliannau a chyfnodau o hanes, yn enwedig y byd clasurol,” meddai.

“Rwyf hefyd yn cael fy ysbrydoli gan waith arlunwyr a darlunwyr eraill, ac yn hoffi ymchwilio ac astudio cyfnodau gwahanol yn ymwneud â hanes Celf. Fy hoff arlunydd ydy Dante Gabriel Rosetti oherwydd rwy’n caru’r symbyliaeth yn ei waith, a cheisiaf roi ystyr yn fy ngwaith fy hun…

“Mae ennill Medal Gelf yr Urdd eleni yn anrhydedd fawr i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy ysgol ac yn enwedig Mr a Mrs Williams, fy athrawon celf a thecstiliau, a’u holl gefnogaeth yn yr ysgol.”

Arwel Rhys Williams, Aelod Unigol o Gylch Llanelli a enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr eleni, a hynny am yr eildro.

Derbyniodd Arwel ei addysg yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd y Strade cyn astudio Lefel A yng Ngholeg Gorseinon. Aeth yn ei flaen i dderbyn gradd mewn Cerdd ym Mhrifysgol Bangor. Wedi iddo raddio, dewisodd gwblhau gradd Feistr mewn Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Kingston, Llundain cyn dychwelyd i Fangor i ddilyn cwrs i fod yn athro.

Un o brif ddiddordebau Arwel yw chwarae’r piano a’r organ, ac erbyn hyn, y mae’n rhannu ei arbenigedd gyda phlant a phobl ifanc yn wythnosol yng nghanolfan Gelf William Mathias yng Nghaernarfon ac fel athro teithiol.

Rhoddwyd y fedal eleni, Medal Goffa Grace Williams, gan Alan Wynne Jones ac Ann Jones, ynghyd â gwobr Glynne Jones (£400) o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus. Daeth Arwel i’r brig yn yr un gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl yn Eisteddfod Conwy.

Un gŵr fydd yn brysur iawn yn ystod yr wythnos yw Edryd Eynon. Mae Edryd nid yn unig yn Llywydd yr Urdd ers mis Tachwedd ond y mae hefyd yn athro gweithgar, a bydd disgyblion Ysgol Bro Brynach, Llanboidy lle y mae yn dysgu, yn cystadlu ddechrau’r wythnos.

“Dwi’n edrych ymlaen at wythnos lawn iawn,” meddai.

“Hon ydy’r wythnos pan mae’r Urdd yn llygaid y cyhoedd, ac rwy’n hyderus y bydd yr Eisteddfod eleni yn llwyddiannus iawn o ganlyniad i waith caled y bobl leol, a bydd gwir dalentau plant a phobl ifanc Cymru yn cael eu harddangos ar lwyfan yr Urdd - gwell talent na welwch chi ar unrhyw raglen deledu fel The X Factor neu Britain’s got Talent! Rwy’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r mudiad a bod y mudiad yn rhan ohonof i!”

Sôn am yr X-factor, mae yna offeryn arbennig iawn ar faes yr Eisteddfod eleni. Piano tryloyw yw hwnnw a chwaraewyd gan neb llai na’r gantores fyd-enwog Alicia Keys pan ymddangosodd ar y rhaglen boblogaidd y llynedd. Os na fyddai hynny’n ddigon roedd y piano, yn ôl pob tebyg, i fod i sefyll yng nghartref Michael Jackson pan oedd ar ei daith ym Mhrydain ond bu farw cyn yr ymweliad. Os oes gennych chi bymtheg mil i’w sbario, mae’r piano, a dderbyniodd gymeradwyaeth bersonol gan Alicia Keys, ar werth ar safle cwmni pianyddion Coach House Abertawe ar y Maes!

PRINT EMAIL A FRIEND SHARE

Comments

No comments have been made.

Post your comments

You must login or register order to post a comment.

RSS Feeds

Get the latest news as it happens, direct to you.

What are RSS Feeds?