Browse
Your Cambrian News Online
Homes supplement
Winter on Wheels
Head Office
|
|
Cambrian News Ltd 7 Aberystwyth Science Park, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH |
Our other publications:
Y Cymro
Y Dydd
County Echo
Holidaymaker
News Archive
Y fedal drama
MANON Wyn Williams, o Aelwyd Rhosmeirch, Cefni, Ynys Môn sydd wedi ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Ceredigion heddiw.
Derbyniodd Manon ei haddysg yn Ysgol Y Graig Llangefni ac Ysgol Gyfun Llangefni. Yna, derbyniodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg a Theatr a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Mae Manon ar hyn o bryd yn astudio cwrs Meistr mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Manon yn gartrefol iawn ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, sy’n deillio o gystadlu’n gyson gydag Aelwyd yr Ynys dros y blynyddoedd. Bu Manon yn hynod llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Caerfyrddin 2007 gan iddi gipio’r Fedal Ddrama yn ogystal ag ennill ei lle yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru y flwyddyn honno.
Actio yw un o brif ddiddordebau Manon ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn dysgu drama yn Theatr Fach Llangefni yn ogystal â chwarae sawl rôl mewn cynyrchiadau gan Gwmni’r Fran Wen a Chwmni Sianco.
Mae Manon newydd dderbyn ysgoloriaeth fydd yn ei galluogi i wneud gradd ôl ddoethuriaeth mewn sgriptio ym Mrhifysgol Bangor, fydd yn cychwyn yn yr Hydref.
Guto Dafydd, Aelwyd Unigol o Gylch Llyn, Eryri ddaeth yn ail a Ffion Davies o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf gipiodd y drydedd wobr.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Mari Rhian Owen a Paul Griffiths. Rhoddir y fedal gan Ysgol Dyffryn Teifi a Choleg Prifysgol y Drindod sy’n noddi’r seremoni.
RSS Feeds
Get the latest news as it happens, direct to you.
What are RSS Feeds?




Comments
Post your comments