Browse
Your Cambrian News Online
Homes supplement
Winter on Wheels
Head Office
|
|
Cambrian News Ltd 7 Aberystwyth Science Park, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH |
Our other publications:
Y Cymro
Y Dydd
County Echo
Holidaymaker
News Archive
Mistar Urdd Yn Teithio'n Wyrdd
MAE Mistar Urdd wedi atgyfnerthu ei egwyddorion ‘gwyrdd’ drwy helpu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) i lawnsio taflenni cerdded llinellol newydd sy’n hygyrch ar y trên a bws yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.
Lawnsiwyd Crwydrau’r TrawsCambrian a Chrwydrau’r Cambrian Ger y Lli yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ar ddydd Mawrth y 1af o Fehefin gyda Mistar Urdd yn dweud 'Wedi wythnos brysur yn y ’Steddfod dyma ffordd wych o ymlacio a chadw'n iach a heini tra'n mwynhau rhai o olygfeydd gorau Cymru heb orfod defnyddio'r car”.
Mae Crwydrau’r Cambrian Ger y Lli yn hyrwyddo teithio ar y trên i rai o’r traethau gorau ar Linell Arfordir y Cambrian ac yn benodol tri llwybr llinellol ar hyd lan y môr rhwng gorsafoedd rheilffordd:
1. Aberdyfi – Tywyn
2. Llanaber – Talybont
3. Aberech – Pwllheli
Drwy weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhwydwaith y TrawsCambria mae PRC wedi datblygu Crwydrau’r TrawsCambrian sy’n annog teithio ar y trên a bws i gyrraedd dau o lwybrau cerdded mwyaf adnabyddus yr ardal – Llwybr Mawddach rhwng Dolgellau ac Abermaw a Llwybr Arfordirol Ceredigion rhwng Blaenplwyf ac Aberystwyth. Meddai Ben Davies o Trenau Arriva Cymru “Gyda gwelliannau i wasanaethau bws a thrên lleol mae’r siwrne yn gynyddol gael ei weld fel atyniad yn ei hun. Mae mentrau megis y Crwydrau yn helpu hyrwyddo’r ardal yn gyffredinol yn ogystal â defnydd gwasanaethau cludiant cyhoeddus sy’n dda i’r economi leol letach.”
Ar ran PRC soniodd Gerwyn Jones “Mae’r taflenni newydd yma yn datblygu ar boblogrwydd ein cyfres bresennol o lwybrau rhwng gorsafoedd ar rwydwaith rheilffordd y Cambrian – Crwydrau’r Cambrian. Rydym yn ffodus iawn drwy gyfuno defnydd o wasanaethau TrawsCambria a Threnau Arriva Cymru fod yna ddewis helaeth o troeon sy’n hawdd i’w cyrraedd ar gludiant cyhoeddus yn yr ardal.”
Wedi ei gynnwys ar y taflenni mae yna fap o bob trywydd, a gynhyrchwyd gan yr awdur cydnabyddus Laurence Main, ynghyd â ffynhonellau gwybodaeth cludiant cyhoeddus a manylion o fentrau eraill a ddatblygwyd gan PRC i hyrwyddo defnydd cludiant cyhoeddus a chysylltiadau i atyniadau a gweithgareddau lleol.
Mae’r taflenni newydd, gan gynnwys holl gyfres Crwydrau’r Cambrian, ar gael i’w lawrlwytho am ddim o www.leinycambrian.co.uk ac o Ganolfannau Croeso a Gorsafoedd Rheilffordd le bo staff.
Llun: Yn lawnsio’r taflenni newydd mae (chwith i’r dde) Mistar Urdd, Heather Millard (Traveline Cymru), Ben Davies (Trenau Arriva Cymru), Gerwyn Jones (PRC) a Arfon Lewis (Bws Arriva).
RSS Feeds
Get the latest news as it happens, direct to you.
What are RSS Feeds?




Comments
Post your comments