Browse

Your Cambrian News Online

Homes supplement

Winter on Wheels

Head Office

Tindle Crest

Cambrian News Ltd
7 Aberystwyth Science Park,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3AH

Our other publications:

News Archive RSS Icon

Partneriaeth newydd – Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urd

03 June 2010

MEWN partneriaeth flaengar gaiff ei lansio yn sgil cyhoeddi enillydd cystadleuaeth Y Fedal Ddrama o’r llwyfan y prynhawn yma, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio’n swyddogol gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn flynyddol. Bydd y bartneriaeth newydd yn cynnig llwyfan proffesiynol i enillydd Medal Ddrama’r Eisteddfod, wrth iddi hi / iddo ef gael gweithio’n agos gydag actorion a chyfarwyddwr proffesiynol Theatr Genedlaethol Cymru, fel rhan o wobr y Fedal Ddrama.

Yn ychwanegol, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn paratoi cynyrchiadau drama fydd â chyswllt penodol ag Eisteddfod yr Urdd. Eleni, mae’r Theatr Genedlaethol ar daith gyda drama newydd, ‘Dau. Un. Un. Dim’ a ysgrifennwyd gan enillydd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2006, Manon Wyn, sy’n wreiddiol o Landwrog ger Caernarfon. Bydd y perfformiadau yn cael eu cynnal yn lleol i faes yr Eisteddfod, yn Neuadd y Celfyddydau Coleg Prifysgol Cymru Llanbed o nos Iau, 3 o Fehefin hyd nos Sadwrn 6 o Fehefin (tocynnau ar gael o Theatr Felin-fach: 01570 470697). Mae bws wedi ei drefnu i’r Coleg, yn rhad ac am ddim o brif fynedfa maes yr Eisteddfod bob nos am 6:30yh. Bydd y noson hefyd yn cynnwys cynhyrchiad llwyfan cyntaf erioed o ddrama fer Saunders Lewis, ‘Yn y Trên’.

Dirgelwch ffuglen wyddonol yw ‘Dau. Un. Un. Dim’, gan Manon Wyn, wedi’i gosod yn y flwyddyn 2110. Mae’r gymdeithas wedi’i rhannu yn ddwy - y ‘pur’ a’r ‘amhur’. Wrth i’r ddau gymeriad, a chwaraeir gan yr actorion, Rhodri Meilir a Lowri Gwynne, herio’i gilydd, mae’r sefyllfa’n cymhlethu, a rhaid i’r ddau gwestiynu popeth fu’n sail i’w bodolaeth hyd yma. Cyfarwyddir y ddrama gan yr actores adnabyddus Betsan Llwyd, sy’n edrych ymlaen yn arw at y sialens o Gyfarwyddo.

Yn ôl Elin Angharad Williams, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn hynod o gyffrous i fod yn cydweithio gyda'r Urdd am y tro cyntaf erioed.  Mae'n hynod o bwysig i ni fuddsoddi yn nramodwyr y dyfodol a pha le gwell i wneud hynny ond gyda phrif fudiad ieuenctid Cymru.  Gobeithiwn yn fawr y bydd y bartneriaeth yma’n blaguro dros y blynyddoedd nesaf a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn waith un o enillwyr y dyfodol yn cael ei berfformio ar lwyfannau cenedlaethol rhyw dro.”

“Mae hon yn fenter newydd i ni,” eglura Aled Siôn, Cyfarwyddwr Celfyddydau ac Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru, “ac rydym yn hynod ddiolchgar i Theatr Genedlaethol Cymru am ymuno â ni i gynnig y cyfle i aelodau’r Urdd i weithio â phobl broffesiynol. Mi fydd yn sicr o agor drysau i’r enillwyr, a chynnig agoriad llygaid iddynt wrth weithio â chwmni theatr teithiol blaengar. Credaf mai dyma ddechrau’r daith i’n henillwyr, a bydd yn brofiad amhrisiadwy iddynt. Hyderaf wrth i ni gydweithio y gallwn feithrin a magu talent ieuenctid Cymru.”

PRINT EMAIL A FRIEND SHARE

Comments

No comments have been made.

Post your comments

You must login or register order to post a comment.

RSS Feeds

Get the latest news as it happens, direct to you.

What are RSS Feeds?