Browse
Your Cambrian News Online
Homes supplement
Winter on Wheels
Head Office
|
|
Cambrian News Ltd 7 Aberystwyth Science Park, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH |
Our other publications:
Y Cymro
Y Dydd
County Echo
Holidaymaker
News Archive
Coron Ceredigion i Catrin
CATRIN Haf Jones, Aelwyd Aeron, Aberaeron sy’n cipio coron Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn ei milltir sgwâr yng Ngheredigion heddiw.
Derbyniodd Catrin ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanarth ac Ysgol Gyfun Aberaeron cyn graddio o Adran Y Gyfraith, Prifysgol Durham y llynedd. Ar hyn o bryd, mae Catrin yn astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Pan yn iau, roedd Catrin yn aelod brwd o Aelwyd yr Urdd Pandy, Llanarth a hi fu’n gyfrifol am sefydlu Aelwyd yr Urdd Durham yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol. Heddiw, mae Catrin yn aelod o Aelwyd Aeron yn ogystal ag Aelwyd John Morris Jones, Bangor ac mae’n dymuno pob llwyddiant iddynt yng nghystadlaethau’r Aelwydydd nos yfory!
Mae gan Catrin ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes a gwleidyddiaeth yn ogystal ag amaeth a’r celfyddydau. Mae hefyd yn mwynhau darllen, ysgrifennu a theithio.
Mae ennill y Goron yn ei milltir sgwâr yn anrhydedd mawr i Catrin fel yr eglura:
‘‘Mae ennill y Goron mewn Eisteddfod leol yn deimlad arbennig iawn. Hoffwn ddiolch i’m hathrawon Cymraeg yn Ysgol Gyfun Aberaeron yn ogystal ag Adran Y Gymraeg, Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth. Ond yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i’m teulu am eu hysbrydoliaeth ddiddiwedd.’’
Gwennan Evans, Aelwyd CF1, Caerdydd, sy’n dod yn ail heddiw a Gwawr Eleri Jones, Aelod Unigol, Cylch Llambed sy’n cael y drydedd wobr.
Rhoddir replica'r goron eleni gan Gwenan a Deian Creunant er cof am eu rhieni Alun a Megan Creunant Davies. Noddwyd y seremoni heddiw gan HSBC.
RSS Feeds
Get the latest news as it happens, direct to you.
What are RSS Feeds?




Comments
Post your comments