LLAWENYDD mawr! Dyna’r teimlad lifai yng Nghribyn fore dydd Llun Calan Mai wrth i’r gymdogaeth fach yng nghefn gwlad Ceredigion ddihuno i’r newyddion fod Ymgyrch yr Ysgol wedi codi dros £70,000.

“Mae’n newyddion ffantastig,” meddai Alan Henson, cadeirydd yr ymgyrch.

“Dwi ddim yn siŵr be’ sy’ fwya cyffrous: y ffaith bo’ ni wedi codi gymaint o arian mhen cyn lleied o amser neu fod ‘da ni gymaint o aelodau – dros 250! O bentre o ryw 300 yn unig o boblogaeth, ma’r naill ffigwr a’r llall yn ffantastig.”

Cytuno’n llwyr ag Alan y mae Elliw Dafydd, swyddog datblygu’r prosiect i brynu’r ysgol a’i addasu’n gartre fforddiadwy i deulu lleol ac yn ganolfan gymdeithasol ac addysg leol.

“Wrth i’r sieciau a’r ffurflenni cyfranddaliadau gyrraedd, ma’ hi wedi bod yn drawiadol pa mor lleol yw’r buddsoddwyr – a pha mor gynhwysfawr hefyd gyda newydd-ddyfodiaid i Gribyn lawn mor gefnogol â phawb arall.”

Wrth roi’r cynnig cyntaf i’r gymdogaeth brynu’r ysgol cyn ei chyflwyno i’r farchnad agored rhoddodd Cyngor Sir Ceredigion chwe mis iddynt godi’r £175,000 angenrheidiol.

Ychwanegodd Alun: “Chwe wythnos nôl degpunt o’dd ’da ni yn y banc. Nawr fod ’da ni dros £70,000, a chrynswth hwnna wedi’i godi yn y gymdogaeth ei hunan, y’n ni’n ffyddiog iawn o’n gallu i ennyn cefnogaeth y cronfeydd arian a chodi digon nid yn unig i brynu’r ysgol ond i addasu’r ysgol yn gartre cysurus i deulu bach lleol ac yn ganolfan a fydd yn cyfoethogi bywyd cymdeithasol ac addysgol Cribyn a Dyffryn Aeron hefyd.”

Ond er pwysigrwydd llwyddiant ariannol ymgyrch Ysgol Cribyn mae Elliw o’r farn mai’r newid sydd wedi digwydd o fewn y gymdogaeth yw’r elfen bwysicaf i sylwi arni.

“Wrth gyrraedd yr ardal a dechrau ar fy ngwaith ro’n i’n ymwybodol mai criw bychan o Gymry cynhenid o’dd yn gyrru’r prosiect.

“Ond wrth i’r fenter brifio ma’ hi wedi bod yn gyrffous iawn gweld y brwdfrydedd yn cydio ac yn lledu ac – yn unol â bwriad y criw bach – yn torri ar draws y ffiniau traddodiadol.

“A thrwy’r cyfan i gyd – wrth i fwy a mwy o bobol gael eu cynnwys a moyn gael eu cynnwys – y Gymraeg sydd wedi bod yn arwain.”

Er fod chwech wythnos yr ymgyrch bellach ar ben mae Elliw’n awyddus i bwysleisio fod y cynnig i brynu cyfranddaliadau a dod yn gyd-berchen ar Ysgol Cribyn dal ar agor.

I wybod siwt mae gwneud hynny ewch at y wefan www.ysgolcribyn.cymru/cy/ neu wrth ebosto ysgolcribyn@gmail