THE latest community news from Abersoch
Merched y Wawr
DYMA’R grwp bychan o aelodau Merched y Wawr Abersoch “Ar y Gweill” sydd wedi bod yn gwau yn ddiwyd dros y misoedd diwethaf.
Yn gyntaf buont yn gwau sgwariau i wneud plancedi i gartrefi henoed, ac yna, yn y cyfnod ers y Nadolig mae’r criw gweithgar wedi gwau 152 o gapiau pom-pom babis bach sydd mewn gofal arbennig yn Ysbyty Gwynedd.
Gwelir fod y pop-poms o dri lliw, sef coch, ambr a gwyrdd.
Dynodir y lliw yn ôl cyflwr iechyd ac anghenion pob babi, ac maent yn cael mynd a’r cap adra!
Yn bresennol rydym wedi dechrau gwau “twiddlemuffs” fel y rhai o rifyn y gwanwyn o ‘Y Wawr’ - ac mae rhai digon diddorol yn datblygu!
Mae’r prosiect nesaf - ar gais nyrsys Adran Gofal arbennig Babis Ysbyty Gwynedd - yn wahanol - teganau wedi’u gwau i roi ar goeden Nadolig ac i’w gwerthu yn yr ysbyty i godi pres i’r adran babis bregus.
Y merched prysur yn y llun yw, rhes gefn o’r chwith: Magi Roberts, Yvonne Lloyd-Jones, Anna Jones, Jean Williams a Gwenda Griffiths. Yn y blaen mae: Iola Thomas ac Iorwen Thomas.
Mae Beti Huws yn un o’r grwp hefyd ond ddim yn bresennol ar y diwrnod.
Mae croeso mawr i unrhyw aelod o’r gangen ymuno â ni ar fore Mawrth yn festri Capel y Graig am 10.30yb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.