THE latest community news from Trawsfynydd

Gwasanaeth Nadolig

Nos Sul cyn y Nadolig cynhaliwyd gwasanaeth ym Moreia Capel y Fro o dan ofal plant a phobl ifanc yr Ysgol Sul.

Roedd naws Nadoligaidd go iawn i’r gwasanaeth. Dechreuwyd gyda sioe bypedau cysgod yn portreadu Stori geni Iesu, a chymerwyd rhan yng ngweddill y gwasanaeth gan y bobl ifanc, yna y rhai ieuengaf a chyfuniad o’r oedrannau i gloi. Roedd ysbryd ysgafn a pharchus i’r cyfan gyda ôl meddwl ac ymarfer tu ôl i’r cyfan.

Bore Nadolig am 10.30yb cynhaliwyd Gwasanaeth Cymundeb Nadolig o dan ofan y gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Daeth criw niferus at ei gilydd i’r oedfa deuluol yma a gosodwyd y diwrnod yn ei gywair addas a chywir.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]