Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 20 Mawrth: 10yb, Huw Roderick, Llanilar; 11yb, Ysgol Sul. Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 20 Mawrth: 5yh, Oedfa yng ngofal teulu Tynfron.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 20 March: 8.30am, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.

Coed y Bont

THE NEXT work party will be meeting on Sunday, 20 March, at 10.30am at the Coed y Bont car park. Work will resume on drainage improvements in the old Coed Cnwch woodland area. Everyone is most welcome to attend and the group is looking forward to meeting anyone interested in volunteering.

Merched y Wawr

DATHLWYD Gwyl Ddewi gan Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn Neuadd Pantyfedwen nos Fawrth, 8 Mawrth. Roedd y neuadd wedi ei haddurno’n hardd gan gennin pedr a chroesawodd y llywydd, Neli Jones, bawb yn gynnes – yn aelodau a gwesteion. Roedd cangen Cylch Wyre wedi eu gwahodd i ymuno yn y dathlu ac roedd yn braf cael eu cwmni. Cafwyd adloniant o’r radd uchaf gan Gôr y Llyfrgell Genedlaethol o dan arweiniad medrus Gwyneth Davies o Bontrhydygroes a Carys Evans o Lanwnnen yn cyfeilio, gyda phawb wedi cael mwynhad pur. Roedd yr adloniant amrywiol yn cynnwys eitemau gan y côr, deuawd ffidil, deuawd piano, un-awd ffliwt ac unawdau lleisiol. Roedd yr aelodau wedi paratoi bwffe hyfryd, a chafodd pawb ‘eu gwala a’u gweddill’ rhwng y bwyd a’r adloniant. Daeth y noson i ben drwy ymuno â’r côr i ganu’r anthem genedlaethol – noson berffaith i ddathlu Gwyl ein Nawddsant.

Ffair Wanwyn

BYDD Ffair Wanwyn flynyddol Chwiorydd Rhydfendigaid yn cael ei chynnal yn Festri Rhydfendigaid fore Sadwrn, 2 Ebrill, o 10yb tan 11.30yb. Agorir gan Dai Owen, Y Gorlan, a bydd yno luniaeth ysgafn, stondin gacennau a raffl. Tâl mynediad fydd £1.5, a 50c i blant; estynnir croeso cynnes i bawb.