Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sadwrn, 2 Ebrill, 10yb, Ffair Wanwyn Chwiorydd Rhydfendigaid. Agorir gan Mr Dai Owen, Y Gorlan. Dydd Sul 3 Ebrill, 10yb, Parch Lewis Wyn Daniel (Gwasanaeth Cymun). Dim Ysgol Sul.Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 3 Ebrill, 2yp, Gwasanaeth yng ngofal Tom Lewis Jones.

Carnifal

CYNHALIWYD Disgo ar brynhawn dydd Iau, 24 Mawrth, yn Neuadd Pantyfedwen. Dewiswyd brenhines y Carnifal a’i gosgordd, ac roedd yn hyfryd gweld y neuadd yn llawn plant yn mwynhau’r disgo a oedd yng ngofal Gordon a Gareth Reid. Dewiswyd Cari Davies, Dolyrychain yn frenhines, gyda Lili Fox, Ava-Marie Huddleston, Elliot Baston a Mathew Huddleton yn osgordd iddi. Bydd y carnifal yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin, ym Mhafiliwn y Bont, a’r llywydd a beirniad fydd Mererid Jenkins, Caerdydd (Lluest, Ffair Rhos). Bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan. Dymuna pwyllgor y carnifal ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.

Rhydfendigaid

CYNHALIWYD gwasanaeth Sul y Pasg yn y capel ar fore Sul 27 Mawrth, yng nghwmni plant yr Ysgol Sul a’r Parch Lewis Wyn Daniel.Roedd yna gwmwl dros lawenydd y Pasg, a chynhaliwyd munud o dawelwch ar ddechrau’r oedfa i gofio am Ned a oedd ond pump oed, a’i famgu, a gollwyd mewn damwain ar y ffordd ar ddydd Gwener y Groglith. Mae cysylltiad â’r teulu gan blant yr Ysgol Sul, gan fod Sharon Jones, mam Ned, wedi bod yn athrawes yn yr ysgol tan yn ddiweddar.Cymerwyd rhan yn y defosiwn gan Dion Wyn, Cari, Delun a Guto Davies, Dwynwen, Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Gwenno Humphreys, Gethin a Gwenno Evans, Cain a Jess Owen, Saran Aur a Lleucu Jones. Cafwyd eitemau hefyd gan ddau barti canu a’r côr. Cafwyd anerchiad amserol gan y Parch Lewis Wyn Daniel, yn canolbwyntio ar y rhif tri, a rhannodd roddion o wyau Pasg i’r plant. Gwnaed casgliad gan Gethin ac Emrys tuag at apêl Cymorth Cristnogol.

Spring Fair

THE Rhydfendigaid Sisterhood’s annual Spring Fair will be held at Rhydfendigaid Vestry on Saturday morning, 2 April, between 10am and 11.30am. The fair will be opened by Dai Owen, Y Gorlan. There will be a cake stall, miscellaneous stall, raffle and light refreshments.