Clwb y Deillion

WRTH gychwyn y tymor newydd, y cwestiwn cyntaf a ofynodd Carol Davies oedd pam mai hi oedd yn cadeirio’r cyfarfod? Yna cawsom y newydd for Gwyddfid Davies, ein cyn-gadeirydd bellach, wedi penderfynu symud yn nes at gartref ei merch yn Harwick, Sir Gaerhirfryn a hynny yn weddol fuan. Siom i ni fydd colli ffrind ffyddlon, annwyl a gweithgar iawn i’r clwb dros gyfnod maith a dyna oedd teimladau yr oll ohonom yn aelodau a phwyllgor. Pawb er hynny yn dymuno pob hapusrwydd a rhwyddineb iddi yn ei chartref newydd.Carol Davies fydd y cadeirydd newydd. Llenwodd y swydd yn afieithus a hwyliog a byddwn mewn dwylo diogel. Roedd yn falch o groesawu aelod newydd Lisa Langdale o Gricieth a da oedd gweld rhai a fu’n anhwylus yn ôl mewn gwell iechyd. Ein gwraig wadd oedd Carol Reeves, cyn-actores a darllenwraig gyda York-shire Television. Wedi symud i Borthmadog, bu’n hyfforddwraig flaengar gyda’r Starlight Players. Cafwyd hwyl yn gwrando arni yn adrodd hanes ei gyrfa fywiog a chre-odd awyrgylch hapus drwy’r cyfan.Rafflau wedyn ac yna’r te ardderchog wedi ei baratoi gan Manon Adams ac yn cynorthwyo y tro hyn oedd Sheila Roberts, Alwen Davies, Sian Jones ac Eve Price.Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 18 Mawrth yn y Ganolfan fel arfer.

Maritime Museum

THE MUSEUM will reopen for the season on 19 March and will be open from noon to 4pm every day.On Wednesday, 2 March, at 7pm there will be an open evening when all members of the public, hotels, shops and businesses will be welcome. Over the winter several of the displays have been added to and revamped.

The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints

SUNDAY in Y Ganolfan, High Street: 10am, Main service with bilingual communion; 11.20am, Scripture study with Sunday School for all ages.