DAETH dros 50 o bobl yngh?d i de bach cleientiaid O Ddrws i Ddrws yn y Clwb Golff ym Mhorthdinllaen.
Yn mwynhau’r wledd roedd y criw swyddfa, y gyrwyr, yr ymddiriedolwyr a defnyddwyr y gwasanaeth. Paratowyd te prynhawn bendigedig gan arlwywyr y Clwb Golff.
Bydd cleientiaid O Ddrws i Ddrws yn ffonio swyddfa O Ddrws i Ddrws i archebu taith ac anaml iawn mae nhw’n cyfarfod y staff swyddfa na’r ymddiriedolwyr sy’n rhedeg y gwasanaeth.
Roedd yn gyfle da i bawb ddod i adnabod ei gilydd. Mae O Ddrws i Ddrws yn rhedeg cynllun (wedi’i ariannu gan y Gronfa Gofal Integredig, Cyngor Gwynedd), i leihau unigedd.
Mae unigedd yn gwneud cymaint o ddrwg i iechyd a smocio yn ôl ystadegau diweddar. Mae defnyddwyr O Ddrws i Ddrws yn ei chael hi’n anodd i fynd allan o’u cartrefi, ac yn defnyddio’r gwasanaeth, fel arfer, ar gyfer apwyntiadau a theithiau angenrheidiol.
Roedd hi’n braf gallu cynnig i’r bobl yma i fynd allan i ymlacio a mwynhau cwmnïaeth. Roedd rhai wedi cyfarfod hen gyfeillion ysgol ar ôl bod flynyddoedd heb weld ei gilydd. Gobeithio y bydd mwy o’r criw yn cymryd mantais o’r gweithgareddau eraill sy’n cael eu trefnu. Mae O Ddrws i Ddrws yn danfon pobl at raglen o weithgareddau ‘Be Nawn Ni Heddiw’ e.e paned a sgwrs yng Nghongl Meinciau Botwnnog unwaith y mis neu adloniant a chinio yn Nhafarn y Fic, Llithfaen.
Roedd yr achlysur yn gyfle hefyd i ddiolch i Paul Wheeldon am ei wasanaeth i O Ddrws i Ddrws, a chyflwynwyd rhodd iddo gan Elaine Davies, Cadeirydd O Ddrws i Ddrws, i ddangos gwerthfawrogiad am ei wasanaeth dros y chwe mlynedd diwethaf.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.