Eisteddfod Llawrplwy a Phenstryd
DDYDD Sadwrn, 6 Chwefror, er gwaetha’r elfennau, tyrrodd cannoedd, yn cynnwys tri chôr i neuadd bentref Trawsfynydd i fwynhau arlwy amrywiol o dalentau o bell ac agos.Hon oedd yr eisteddfod orau ers blynyddoedd ac roedd awyrgylch fyrlymus gydol y ddau gyfarfod â’r neuadd dan ei sang. Un o’r uchafbwyntiau oedd canu penblwydd hapus i Hywel Annwyl, Llanbrynmair, un o’r selogion.Rhyfedd fel mae’r enw’n gweddu i’r dyn.Beirniaid: Cerdd, Nia Morgan, Y Bala; Llefaru, Buddug Medi, Y Bala gamodd i’r adwy ar y funud olaf; Cyfeilydd, Tudur P Jones, Tywyn; Llywydd, Bryn Owen Davies, Llanwnog, Caersws.Canlyniadau: Cwpan goffa Mrs A Vaughan Cain i’r cystadleuydd llwyfan gorau o dan 12 oed: Osian Trefor Hughes, Deiniolen; Unawd dan 6 oed: Malena Gwyn, Parc, Y Bala a Llio Iorwerth, Trawsfynydd Unawd dros 6 a than 8 oed: Gwenlli Griffiths, Dinas, Llanwnda; Unawd dros 8 a than 10 oed, Nel ap Tomos, Penrhyndeudraeth; Unawd dros 10 a than 12 oed: Osian Trefor Hughes, Deiniolen; Alaw werin dan 12 oed, Elain Rhys Iorwerth, Trawsfynydd; Unawd cerdd dant dan 12 oed: Erin Fflur Edwards, Llanrwst.Unawd piano dan 12 oed, Osian Griffiths, Dinas, Llanwnda; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd (heblaw y piano), oed cynradd, Elain Rhys Iorwerth, Trawsfynydd; Unawd 12 a than 16 oed, Tomos Griffiths, Cae Glas, Trawsfynydd; Unawd piano 12-16 oed, Rhiannon Bonds, Bronaber; Unawd cerdd dant dan 16 oed, Siôn Dafydd Edwards, Llanrwst; Alaw werin dan 16 oed, Fflur Davies, Rhostryfan; Parti canu dan 16 oed, Parti 4 a 5 Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Parti cerdd dant dan 16 oed, Parti 5 a 6 Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Deuawd dan 16 oed, Llio a Lois Hughes, Rhydymain; Unawd Gymraeg dan 30 oed, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos; Unawd allan o sioe gerdd, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos; Unawd i rai dros 60 oed, Gwynne Jones, Llanafan, Aberystwyth; Cân werin agored, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos; Unawd Gymraeg agored, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos. Unawd cerdd dant, Mared Jones, Llanelltyd.Deuawd neu driawd cerdd dant, Awel, Mari a Lowri, Blaenau Ffestiniog; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd — gwobr i gofio bywyd a gwaith Hugh Pugh, Gruffydd a John Rowlands, Tyddyn Bach, Rhiannon Bonds, Bronaber; Deuawd agored, Ceris Jones a Mared Thomas, Dolgellau. Ensemble Lleisiol (Cymdeithas Eisteddfodau Cymru), Awel, Lowri a Mari, Blaenau Ffestiniog; Sgen ti dalent, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos; Prif unawd, Ieuan Jones, Llandrillo yn Rhos; Côr beu barti cerdd dant, Lliaws Cain, Trawsfynydd; Parti alaw werin Gymraeg, Lliaws Cain, Trawsfynydd; Côr neu barti ago-red, Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden, Trawsfynydd.Adrodd dan 6 oed, Nel Dafydd, Borth y Gest; Adrodd dros 6 a than 8 oed, Gwenlli Griffiths, Dinas, Llanwnda; Adrodd dros 8 a than 10 oed, Erin Fflur Edwards, Llanrwst; Adrodd dros 10 a than 12 oed, Swyn Prysor Hughes; Adrodd 12-15, Siôn Dafydd Edwards, Llanrwst; Parti cyd-adrodd dan 16 oed, Parti Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd; Adrodd dan 30, Glain Williams, Bronaber.Prif adroddiad, Glyn Jones, Y Bala; Sgets, Clwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden, Trawsfynydd; Meim, Parti Gwenno, Prysor ac Eden, Trawsfynydd.Llenyddiaeth a barddoniaeth:Yn dilyn salwch y beirniad, ni chafwyd canlyniadau. Cysyllter â’r ysgrifennydd gyda’r ffug enwau.Rhyddiaeth Bl 5 a 6: Ar ben fy nigon, ac yn derbyn tarian Merched y Wawr, Trawsfynydd Gruff Rees Ellis, Trawsfynydd.
Darn i’w gyfieithu: Ieuan Tomos, Bronaber.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.