Mae'r Nadolig ar y gorwel a pha ffordd well i fynd i hwyl yr ŵyl na dod i Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru? Ymunwch â ni nos Iau, 7 Rhagfyr am 5pm, am noson hwyliog i’r teulu oll pan fydd cyfle i siopa, bwyta a mwynhau cerddoriaeth fyw.

Os ydych chi’n chwilio am yr anrheg Nadolig berffaith, bydd nifer o fusnesau lleol yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau a bydd digonedd o anrhegion unigryw a hyfryd ar werth yn siop y Llyfrgell.

National Library of Wales Christmas Fair
(Provided)

I chi sydd am hel atgofion, bydd ein harddangosfa Aberystwyth ar Gamera: Ffotograffau gan Pickfords 1880-1970 yn agor ar y noson gyda thaith dywys arbennig gan Wil Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell.

Bydd cyfle i gwrdd â’n gwestai arbennig, Siôn Corn, yn ei Groto o 5:00pm ymlaen, a bydd cyfle i blant fwynhau hwyl creadigol wrth greu crefftau Nadolig.

National Library of Wales Christmas Fair
(Provided)

I unrhyw un sydd eisiau ymlacio dros ychydig o fwyd, bydd Caffi Pen Dinas yn gweini roliau twrci poeth, mins peis a gwin cynnes. Ac i goroni’r noson, mwynhewch adloniant byw yng nghwmni Côr Ysgol Llanilar a Seindorf Arian Aberystwyth.

Bydd y Llyfrgell yn llawn bwrlwm y Nadolig ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Ŵyl gyda chi yn ein Ffair.

Am ragor o fanylion dilynwch ni ar Facebook (llgcymrunlwales) ac Instagram (@librarywales)

01970 632800 | www.llyfrgell.cymru

The National Library of Wales
(Provided)

Christmas is just around the corner and what better way to get into the festive spirit than coming along to the National Library of Wales Christmas Fair. Join us on Thursday, 7 December at 5pm, for a fun evening for all the family, when there will be an opportunity to shop, eat and enjoy live music.

If you’re looking for the perfect Christmas present, a number of local business will be selling a variety of products and there will be plenty of unique and lovely gifts for sale in the Library shop.

For those of you in a nostalgic mood, our Aberystwyth on Camera: Photographs By Pickfords 1880 – 1970 exhibition will open on the evening with a special guided tour by Wil Troughton, Curator of Photography at the Library.

Santa will make a special guest appearance in his Grotto from 5:00pm onwards, and children can get creative making Christmas crafts.

For anyone wanting to relax over some food, Pen Dinas Café will be serving hot turkey rolls, mince pies and mulled wine. And to top it off, enjoy some live entertainment by Ysgol Llanilar Choir and Aberystwyth Silver Band.

The Library will be full of Christmas cheer on the evening and we’re looking forward to celebrating the festive season with you in our Fair.

For further details, follow us on Facebook (llgcymrunlwales) and Instagram (@librarywales)

01970 632800 | www.library.wales