Cyngor Cymuned
CAE CHWARAE: Adroddwyd bod symudiad wedi ei nodi o ganlyniad i law trwm a penderfynwyd cau y cae ar unwaith. Bydd y giat yn cael ei chau gyda chlo clap a bydd arwydd yn cael ei roi i fyny i rybuddio bod y cae ar gau i’r cyhoedd.Trafodwyd y posibilrwydd o roi ffensys diogelwch uchel er mwyn cau yr ardal sydd yn gyfagos i’r llethr, gan gynnwys y swings er mwyn cadw y gweddill o’r cae yn agored gan barhau i fonitro yn rheolaidd.Penderfynwyd gofyn i’r peiriannydd os y byddai’r mesur yma yn addas. Rhoddwyd hawl i’r Cyng Iain Roberts a Geraint Jones weithredu mewn ymgynghoriad gyda’r cadeirydd yn ddibynnol ar gyngor y peiriannydd.Adroddodd y clerc ei fod yn parhau i chwilio am y gweithredoedd, sef rhodd stad Cefnamwlch, dyddiedig Medi 1921. Nid oedd copi yn meddiant asiant tir stad Cefnamwlch ond mae’n bosibl bod copi ym meddiant cyfreithiwr y stad yn Llundain, byddai cost sylweddol petai angen i’r cyfreithwyr chwilio amdanynt. Bydd y clerc yn cysylltu gyda chwmni cyfreithwyr Martin a Strain i weld os oes copi yn eu meddiant yn dilyn ffurfio y les wreiddiol rhwng y cyngor a phwyllgor y cae yn yr 1980au.Ty’r Ysgol, Deunant: Derbyniwyd eglurhad ar y cymal person lleol sy’n gysylltiedig â gwerthiant y ty, sydd yn darllen fel a ganlyn:Gwahoddir cynigion am yr eiddo a adnabyddir fel Ty’r Ysgol, Deunant, Aberdaron gan bersonau sydd wedi byw neu weithio yn ardal dalgylch dibynnol Aberdaron ble lleolir yr eiddo ac ardal dalgylch dibynnol y cynghorau cy-muned cyffiniol (a elwir o hyn allan yn Yr Ardal Leol)ac sydd wedi ei amlinellu yn las ar y cynllun atodiedig, am gyfnod didor o 10 mlynedd neu fwy yn union cyn cyflwyno’r tendr.Neu sydd yn byw tu allan i Yr Ardal Leol ond sydd wedi byw o fewn yr ardal leol am gyfnod di-dor o 10 mlynedd neu fwy yn y gorffennol.Neu sydd yn byw tu allan i Yr Ardal Leol ond sydd wedi byw yno am gyfanswm o 10 mlynedd yn y gorffennol gan gynnwys cyfnod didor o bum mlynedd neu fwy o fewn cyfnod o 20 mlynedd. Rhaid i bob tendrwr sicrhau y gallant fodloni o leiaf un o’r cymalau uchod. Bydd tendrau gan bersonau sy’n methu bodloni un o’r cymalau yn cael ei diystyru. Yn ychwanegol bydd unrhyw werthiant yn ddarostyngedig i’r prynwr gyfamodi ar ran ei hun ac unrhyw olynyddion mewn teitl bydd unrhyw werthiant neu brydles/denantiaeth yn y dyfodol i bersonau all fodloni o leiaf un o’r cymalau uchod.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.