Madam,
Re: Apêl i Gyngor Gwynedd peidiwch â chau ein llyfrgelloedd.
Darllenais erthygl ar wefan Cymru Fyw ar 13 Medi, bod Cyngor Gwynedd yn ystyr-ied cau pedwar llyfrgell, sef Penrhyndeudraeth, Llanberis, Deiniolen a Harlech. Yn fy marn i a nifer fawr o ddarllenwyr y Cambrian News dwi’n apelio ar Gyngor Gwynedd, i ail-ystyried ei benderfyniad i gau’r llyfrgelloedd yma.
Nid yw trigolion Penrhyndeudraeth, Deiniolen, Llanberis na Harlech yn sicr ddim eisiau colli eu llyfrgell, oherwydd mae llyfrgell nid yn unig yn le i gael llyfr, mae hefyd yn le da i bobl i gymdeithasu.
Yn gywir,
Rhian Jones, Gwernant, Manod, Blaenau Ffestiniog.
Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page




Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.