Bydd digwyddiad arbenning yng Nghastell Aberteifi yn dathlu 40 mlynedd o gwmni recordiau Fflach.

Dechreuwyd Recordiau Fflach yng Ngorllewin Cymru ym 1981, gan y brodyr Richard a Wyn Jones, oedd hefyd yn aelodau o’r band Cymraeg ton newydd/pync, Ail Symudiad.

Mae’r noson yn dathlu 40 mlynedd o Fflach, yn ogystal â thalu teyrnged i’r sylfaenwyr, a gyfrannodd gymaint i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Jess, Crys, Einir Dafydd a Catsgam.

Band roc trwm o Resolfen yw Crys, a ffurfiwyd ym 1976 gan y brodyr Liam Forde a Scott Forde, ynghyd ag Alun Morgan.

Ers eu record sengl gyntaf ym 1980 ar Click Records, aeth Crys ymlaen i ryddhau albymau ar labeli Sain a Fflach ac maen nhw’n dal i rocio mwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Ffurfiwyd Jess ym 1988 gan ffrwydro i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, Gwent.

Rhyddhawyd tri albwm a dwy record sengl ganddynt ar label Fflach ac aethant ymlaen i ennill gwobrau niferus a theithio’n helaeth ledled Ewrop.

Mae eu steil yn gymysgedd o roc trwm a phop melodig gyda llawer o alawon lleisiol.

Band o Dde Ddwyrain Cymru yw Catsgam, a ffurfiwyd ym 1997, gyda steil arbennig eu hunain o roc melodig gitâr wedi’i ffurfio o gwmpas cyfansoddi caneuon pwerus Rhys Harries a llais adnabyddedig Catrin Brooks.

Recordiwyd pedwar albwm o ddeunydd gwreiddiol ar label Fflach gan arwain at ryddhau Sgam – y casgliad pen-blwydd yn 21 oed, ym mis Hydref 2018.

Yn ogystal, bydd Einir Dafydd, enillydd Wawffactor a Chân i Gymru yn perfformio fel rhan o’r noson arbennig hon yng Nghastell Aberteifi ar nos Wener, 22 Gorffennaf.