ANWEN Davies, cadeirydd CFfI Pontsian 2015-2016 yn cyflwyno siec o £1,938.97 i Angharad James a Betsan Fflur Lloyd-Jones ar ran Uned Arbenigol i Fabanod Ysbyty Singleton, Abertawe.
Hefyd, Elen Lloyd-Jones, is-gadeirydd yn cyflwyno siec o £1,938.97 i Wyn Thomas ar ran Uned Dialysis Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Yn y llun hefyd, gwelir Gwynfor a Meinir Jones, llywyddion y clwb ac Emrys Thomas, is-lywydd y clwb.
Casglwyd yr arian yma drwy gydol y flwyddyn yn ystod y cwrdd diolchgarwch, gwthio gwely o Lambed i Bontsian, noson goffi, canu carolau a noson bingo.
Dymuna’r aelodau ddiolch i bawb am gyfrannu. Gwerthfawrogir y cefnogaeth yn fawr iawn.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.