Sefydliad y Merched
NOS WENER, 5 Chwefror, croesawyd yr aelodau i gyfarfod o’r gangen leol ar noson aeafol iawn gan Ellen. Darllenwyd y llythyr misol gan drafod a nodi amryw o bynciau, yna estynnodd groeso cynnes i’r gwr gwadd, sef y caplan Marcus Wyn Robin-son, Bethel. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn ganddo o dan y pennaed ‘Caplaniaeth yn ei holl amrywiaeth’. Ganwyd a magwyd ef yng Nghaernarfon. Rhoddodd ddarlun i ni o’i fywyd ac egluro sut aeth yn gaplan i’r Llynges, lle y bu am 20 mlynedd. Mae yn awr yn ôl ar dir sych ac yn gaplan ym Methel a’r cyffiniau. Diolchodd Ellen iddo am noson ddiddorol iawn. Gwesteion y tê oedd Marilyn a Sheila. Diol-chodd Ellen iddynt. Enillydd y raffl, rhoddedig gan Sheila, oedd Karen.Nos Iau, 4 Chwefror, aeth rhai o’r aelodau i Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli i weld y ffilm ‘The Lady in the Van’. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn. Diolch i Marilyn am drefnu.Ar 4 Mawrth yn y Neuadd Goffa dathlu Gwyl Ddewi fyddwn yn y cyfarfod nesaf, gyda sgwrs gan Angharad Thomas o dan y pennawd ‘O Aber-daron i Bwllheli’.



_cropped.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.