ELENI bydd Clwb Merched y Gest yn dathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r clwb a nos Iau ddiwethaf oedd cychwyn ar y dathlu.
Yng nghanol bwrlwm y noson ymaelodi daeth Gerallt Pennant a’r criw i ddarlledu ar gyfer y rhaglen Heno ar S4C.
Ar y rhaglen roedd eitem hynod ddifyr gan Helen Pugh, Mari Williams, Nansi Hughes a Nel Brookes yn rhoi hanes sefydlu’r clwb, sef ‘Mothers Club’ fel y gelwir yna.
Braf iawn oedd gweld pawb yn dathlu gyda prosecco ac wrth gwrs y gacen.
Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Iau, 28 Medi, am 7.30yh yn y Ganolfan, Porthmadog, lle fydd sgwrs gan John Dilwyn o’r Archifdy.
Fel y dywedodd Helen ar y rhaglen Heno: “Llamu ymlaen mae Merched y Gest.” Felly dewch yn llu i fwynhau’r flwyddyn arbennig yma.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.