THE latest community news from Llanbedrog.
Sefydliad y Merched
PATAGONIA neu’r Wladfa oedd testun sgwrs y wraig wadd Eilianna Evans yng nghyfarfod mis Tachwedd. Mae Eilianna yn enedigol ô’r Wladfa ond yn bellach wedi cartrefu yn yr ardal. Cafwyd, drwy lyfrau a lluniau, flas ar y ffordd o fyw yno.
Hefyd, cafwyd cyfle i flasu te a jam, llaeth a chynnyrch o’r wlad. Diolchwyd iddi am noson bleserus ac addysgiadol.
Nerys Kimberley, merch y llywydd, fydd y wraig wadd yng nghyfarfod mis Rhagfyr, gyda hanes y fordaith o America adref i Lyn.
Bydd swper Nadolig eleni yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn ar 15 Rhagfyr.
Canu carolau
CYNHELIR noson canu carolau yng Nghanolfan Adloniant Aberdaron (Hen Ysgol Aberdaron) nos Sul, 4 Rhagfyr am 7.30yh.
Arweinyddes y canu fydd Gwladys Thomas, gyda Gwenda Williams yn cyfeilio a’r unawdwyr fydd Mair Jones ac Elin Hari. Darllen a gweddiau gan y Parch Naomi Starkey. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a gwneir casgliad ar y diwedd tuag at Gronfa’r Eglwys Newydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.