THE latest community news from Aberdaron

Sefydliad y Merched

CROESAWYD y Parch Naomi Starkey i gyfarfod dechrau mis Hydref. Cawsom hanes ei gyrfa a lle bu’n gwasanaethu cyn dod atom i Eglwys Aberdaron.

Braf oedd clywed ei bod wedi ymdrechu i ddysgu Cymraeg ac yn sgwrsio yn hamddenol ynddo. Mae Naomi wedi ysgrifennu llyfr yn ddiweddar.

Derbyniwyd gwahoddiad gan Sefydliad Chwilog i glywed sgwrs gan Mair Tomos Ifans. Diolch iddynt am noson ddifyr ac am y croeso.

Dewiswyd Tu Hwnt i’r Afon, Rhydyclafdy i gael swper Nadolig ar 5 Rhagfyr. Carys Jones, Cyndyn a Wenda Williams, Bryn fydd yn gyfrifol am y trefniadau.

Disgwylir Colin Evans, Aberdaron, i’r cyfarfod nesaf ar nos Lun, 6 Tachwedd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]