THE latest community news from Botwnnog.

Sefydliad y Merched

CROESAWYD yr aelodau i gyfarfod o’r gangen nos Lun, 3 Ebrill, gan y llywydd, Gwyneth Evans.Rhoddodd groeso arbennig hefyd i’r wraig wadd, sef Marilyn Adams o Chwilog a’i chyfeilles, Carys.Yn hwyliog a difyr iawn soniodd Marilyn am rai o atgofion, o’i bywyd, rhai hapus ac ambell i rai trwstan. Clywyd fel y darganfu hen ddyddiadur o eiddo ei thaid yn y sied gartref a diddorol oedd gwrando arni’n darllen pytiau ohonno a chlywed am fywyd yr oes a fu. Mwynhawyd hefyd straeon am deithiau a wnaeth gyda’i ffrindiau i Ynys Enlli. Roedd ganddi nifer o luniau i gyd-fynd a’i hanesion a mawr fwynhawyd edrych arnynt. Diolchwyd yn gynnes iddi gan y llywydd. Diweddwyd y cyfarfod gyda phaned dan ofal Shirley Ellis. Hi hefyd roddodd gwobr y raffl a enillwyd gan Dilys Jones. Yn y cyfarfod nesaf ceir trafodaeth dan arweiniad un o ymgynghorwyr y sir, ar yr argymhellion y Cyfarfod Blynyddol yn Lerpwl ym Mis Mehefin.

Oedfa

ARWEINIR yr oedfa yng Nghapel Rhydbach ddydd Sul y Pasg am 5yh gan y gweinidog, y Parch R O Roberts.