THE latest community news from Llanbedrog

Plas Glyn y Weddw

BYDD trafodaeth arbennig yn Plas Glyn y Weddw ar ddydd Sul, 8 Gorffenaf, am 2yp.

Byddwn yn archwilio dylanwad man geni a magwraeth ar greadigrwydd yng nghwmni’r artist Elfyn Lewis; Angharad Price (academydd gyda’i chyhoeddiadau yn cynnwys y nofel ‘O! Tyn y Gorchudd’ a ‘Ffarwel i Freiburg, crwydriadau cynnar T H Parry Williams’); Carwyn Jones (artist ddaeth i amlygrwydd fel ‘Y Dyn Gwyllt’ ar S4C); Michael Sparks (Sgotyn sydd wedi syrthio mewn cariad â Chymru ac ymgartrefu yma) a Branwen Cennard (awdur a chynhyrchydd fu’n gweithio’n agos â Meic Povey ar sawl cynhyrchiad teledu gan gynnwys ‘Byw Celwydd’).

Bydd mynediad am ddim.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]