THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

TYMOR newydd arall â’r Merched yn crynhoi yn eiddgar ar noson aeafol yn y neuadd ddiddos.

Rhaglen lawn a diddorol yn ein disgwyl o law tîm o swyddogion newydd.

Mair Griffiths, ein llywydd serchog yn croesawu aelod newydd i’n plith, cofio’n gynnes at ambell un sy’n methu bod yma heno cyn cydganu Cân y Mudiad, gwahanol bennill bob tro.

Yna Mair yn ein diddanu gan enwi’r noson yn 1, 2, 3.

Sôn yn gynta am Geraint Thomas ar ei feic a’i grys melyn yn ennill y râs arbennig.

Yn ail adroddodd Mair y pennill Y Râs, T Rowland Hughes yn ei dull dihafal hi.

Yn drydydd aeth at y piano i chwarae miwsig dawns a dawnsio gwerin sionc.

1, 2, 3 i gychwyn gweithgaredd y gaeaf!

Roedd Mary wedi paratoi mathau o gwisiau - penne lawr i’w hateb am y gore.

Daeth noson ddifyr i ben yn rhannu swper rownd i’r bwrdd.

Gwobrau raffl i bedair lwcus - Margaret, Val, Mary a Brenda.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]