THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

AR noson rynllyd oer ddiwedd Tachwedd roedd stafell y neuadd yn ddiddos i groesawu’r aelodau. Noson i sôn am daith Marian Beech Hughes i Ganada oedd ar y rhaglen. Siom na allai hi fod yn bresennol ond croesawyd Iestyn, ei g?r, yn wresog i adrodd hanes eu taith anturus o Faes y Garn i Vancouver.

Trwy ei luniau trawiadol daeth Iestyn a’r argraff o ysblander gwych Canada yn fyw. Roedd Iona yn falch o’r cyfle i ddiolch o galon iddo ar ran yr aelodau i gyd ac i anfon cofion gyda blodyn bach at Marian.

Dyfarnodd Iestyn mai Mair Jones ddaeth yn gynta yn y gystadleuaeth gyda Mair Griffiths yn dilyn a Mair Jones eto yn drydydd.

Testun y gystadleuaeth oedd ‘llwy de addurniadol’.

Tocynnau lwcus y raffl gan Val a Blodwen, Dora ac Eirlys.

Daeth noson ddiddorol i ben dros gwpaned a sgwrs wedi’i baratoi gan Marian a Margaret.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]