THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
LLOYD Edwards oedd y gwr gwadd ar 24 Tachwedd.
Mae enw Lloyd yn wybyddus i bobl brwd y sioeau lleol a thu hwnt dros y wlad.
Mae’n gynghorydd prysur a “dyn y sioeau”, fel y cyflwynodd y llywydd i’r aelodau.
Mae yn feirniad teg a pharchus erbyn hyn ac yn nabod potel o jam a siytni fel cledr ei law!
Dywedodd fod Sioe Llanfarian yn agos at ei galon gyda digon o gystadleuwyr dawnus.
“Rydw i wedi benni cystadlu nawr – a galla i roi tips i chi,” meddai, a dyna wnaeth e, a chael ei holi o bob tu am fwy o tips.
Er ei fod yn arbenigwr yn y maes, mae e hefyd yn gefnogol a charedig i ddechreuwyr ac yn eu hannog i gystadlu.
Daeth sawl un o’r aelodau â photyn o siytni cymysg i’r gystadleuaeth.
Trôdd y beirniad at ei dasg a dedfrydu un Anne yn gyntaf gyda’i siytni o ffrwythau cymysg.
Afal ac oren oedd dewis Margaret a hi ddaeth yn ail tra bod siytni Valmair yn drydydd gyda’i gynnwys o flodfresych a phwmpen.
Cyd-deithiodd Lloyd a Brenda ym myd Sioe Llanfarian ers ymron i 15 mlynedd a chroesawodd Brenda y cyfle i ddiolch iddo am noson addysgiadol a hwyliog yn ei gwmni.
Pleser fu i Iona a Brenda i ennill gwobr raffl tra’n mwynhau‘r cwmni dros baned wrth Cath a Marian.
I ddiweddu, cyn troi am adre, rhannodd Anne lythyr Sandra, y llywydd, â’r aelodau.
Gair hyfryd cyn dathlu’r Nadolig yn eu hannog nhw i uno i ddathlu Gwyl y geni heb flino gormod yn paratoi ond i fwynhau’r gwmnïaeth, hwyl a chwerthin.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.