THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

NOSON o adloniant gawsom ni yn ein cangen ym mis Mawrth gyda’r neuadd yn gyfforddus lawn.

Criw o fechgyn hwyliog o ardal Banc Sion Cwilt yw Bois y Gilfach sydd ers rhyw wyth mlynedd wedi cefnogi nifer o elusennau trwy gynnal cyngherddau.

Eleni Ambiwlans Awyr Cymru fydd yn elwa.

Un ohonom ni yn Llanfarian yw Heledd, eu harweinydd, sydd erbyn hyn yn byw yn Nerwen Gam ac wedi sefydlu asiantiaeth gyfieithu “Cyfiaith” yn Aberaeron.

Yn ei dull cynnil diffws roedd hi’n arwain a hefyd yn cyfeilio‘n sensitif iawn i’w chôr.

Roedd graen ar y gwaith — yn ganeuon poblogaidd, yn ganu gwerin ac ambell emyn.

Rhwng yr unawdau, tinc y gitâr a jôcs lliwgar Hywel, yr arweinydd ffraeth, fe gaed rhaglen amrywiol, hynod o dderbyniol.

Torrwyd y noson yn ei blas i ganiatau amser i droi at y bwrdd helaeth oedd dan ei sang o bethau da.

Cyfle ardderchog i gymdeithasu ag aelodau o ganghennau cyfagos dderbyniodd ein gwahoddiad i ymuno â ni ar y noson.

Yn ein cangen ni rhaid cael rhyw gystadleuaeth fach ym mhob cyfarfod a’r tro yma llunio brawddeg o’r gair C-I-L-F-A-CH oedd y dasg.

Eirlys, ymwelydd o Bronant, fu’n fuddugol.

Wrth ddiolch am noson gartrefol, braf dywedodd Beti Wyn, ein llywydd fod natur Bois y Gilfach yn dod allan yn eu canu.

Mor wir, mae’n nhw‘n dod o’u hamrywiol swyddi, yn gwisgo’r crysau lliw leilac ac yn amlwg yn mwynhau cwmni ei gilydd a doedd neb ar hast i fynd adre!

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]