THE latest community news from Llangwyryfon
Cyfraniad sylweddol
AR ôl bod yn canu carolau o gwmpas y pentre’ cyn y Nadolig, roedd gan aelodau Cymdeithas Tabor a’r Clwb Ffermwyr Ifanc gyfraniad sylweddol o £1,458 i’w gyflwyno i Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais (llun uchod).
Daeth y swyddogion ynghyd i gyflwyno’r siec i Rhian Jones, nyrs cemotherapi arbenigol. Diolch yn fawr i drigolion yr ardal am gefnogaeth mor hael eleni eto.
Merched y Wawr
AETH tair o aelodau’r gangen i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dewis Dau Ddwrn yn Felinfach.
Ni chafwyd llwyddiant o fath yn y byd, ond cafwyd llawer o chwerthin a chyfarfod ag aelodau hwyliog iawn o ganghennau eraill.
‘Arddangosfa o Waith Crefft’ oedd ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod mis Ebrill ac wrth gerdded i mewn i’r neuadd roedd gwir arddangosfa o flaen ein llygaid.
Roedd Beti Wyn Davies wedi gorchuddio tri bwrdd gydag enghreifftiau o’i gwaith.
Yn ystod y tair neu bedair blynedd ddiwethaf mae wedi cymryd diddordeb yn y grefft o ffeltio, ac erbyn hyn mae’n arbennigwraig arno, wedi cystadlu ac ennill mewn nifer o sioeau, ac yn barod iawn i hyfforddi eraill yn y grefft.
Eglurodd i ddechrau y gwahanol fathau o ffeltio, sef ffeltio sych, ffeltio gwlyb, a chyfuniad o’r ddau.
Dangosodd i ni’r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer y gwahanol fathau gan gynnwys gwlân Merino mewn gwahanol liwiau, nodwyddau arbennig, sebon pur a thempledi plastig ar gyfer gwneud bagiau.
Roedd yr enghreifftiau gorffenedig o’i gwaith yn ddigon o ryfeddod, gan gynnwys addurniadau Nadolig, bagiau, clustogau, mwclis ac anifeiliaid bychan.
Roedd ganddi waith arloesol tridimensiwn hefyd â’r cyfan oll wedi dechrau a datblygu i’r fath raddau o fewn rhyw bedair blynedd.
Diolch i Aranwen Jarman am drefnu’r noson a’n cyflwyno ni i grefft newydd a chrefftwraig arbennig.
Cyn gorffen, treuliwyd peth amser yn trefnu cyfraniad y Gangen i ?yl y Pum Rhanbarth yn Felinfach ar 11 Mai a hefyd y Daith Ddirgel.
Clwb Croeso
MIS Ebrill cafwyd cyfarfod dipyn yn wahanol i’r arfer, yng nghwmni Shion Buschner, sy’n ymarferydd ‘acupuncture’.
Ond nid dyna’r trywydd gymerodd hi y tro hwn gan ei bod hefyd yn cynnig cyngor ym maes iechyd ysbrydol a lles y corff. Eglurodd sut y gall y corff dynol esgor ar ei wellhad ei hun, a phwysigrwydd tawelwch meddwl a llonyddwch. Er mwyn cael gwell syniad o’r broses a chyfranogi o’r tawelwch meddwl, perswadiodd bawb i eistedd yn dawel gyda’n llygaid ar gau am funudau lawer. Mae’n amlwg yn ddynes ymrwymedig iawn i’w syniadau ac wedi gweld y manteision yn ei bywyd ei hun, ac roedd y sesiwn wedi taro tant gyda nifer o’r gynulleidfa.
Diolch i Rhiannon am sicrhau ‘rhywbeth i feddwl amdano’ unwaith eto.
Clwb Garddio
YN anffodus, methodd y siaradwr gwadd â dod i gyfarfod mis Ebrill oherwydd anhwylder, felly cymerwyd y cyfle i gadarnhau trefniadau’r ffair blanhigion a stondinau i’w chynnal yng Nghoed Clychau Glas ar 11 Mai rhwng 10.30yb a 12yp.
Dosbarthwyd ffurflenni ar gyfer cystadleuaeth rhifau lwcus a gofyn i bawb geisio gwerthu 20 o rifau’r un. Penderfynwyd ar destun cystadleuaeth y clwb am eleni sef ‘Gwnes i hwn o’m gardd i’.
Yna camodd Brian Couch i’r adwy a chawsom gyflwyniad byrfyfyr ganddo ar ei brofiad ef o arddio mewn gwelyâu uchel. Eglurodd sut roedd yn codi’r gwely a beth i’w roi ynddo a’r modd roedd yn medru ei gadw i gynhyrchu am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Cynigiodd, yn ddiffuant, i ddod i roi help llaw i unrhyw un oedd am godi gwely o’r fath.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.