THE latest community news from Llaniestyn

Merched y Wawr

AR 5 Hydref, croesawyd Gwenllian S Jones (merch Ann S Jones) i roi sgwrs diddorol ynghyd â dangos lluniau o’i thaith a gwaith o gwmpas India.

Roedd pawb wedi mwynhau yn arw.

Cafwyd y diolchiadau gan Nia, Ty Newydd a gwnaethpwyd y tê gan Doris, Gwyneth a Mair.

Ar nos Fawrth, 24 Hydref, cafwyd noson bingo yn y Ganolfan wedi’i drefnu gan aelodau o’r gangen.

Diolch i Nia, Bod Hyfryd a Nia, Ty Newydd am alw’r rhifau, diolch i’r aelodau am wneud y lluniaeth ac i bawb a ddaeth i gefnogi.

Cofiwch am yr yrfa chwist flynyddol ar nos Sadwrn, 2 Rhagfyr am 7.30yh.

Croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]