THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
AR 6 Mai, cafwyd gwasanaeth diddorol gan y Parch Glenys Jones gyda’r testun ‘Atgyfodiad Crist a Crist ar lan môr Tiberias gyda’i ddisgyblion’.
Ar 13 Mai am 2.30yp a 6yh, cafwyd gymanfa Annibynnwyr Pen Llyn gyda’r arweinydd Iwan W Williams o Felinheli.
Hefyd yn y prynhawn cafwyd Cyfarfod y Plant wedi’i lywyddu gan Elin Ellis Owen, Soar gyda’r rhannau arweiniol yn cael eu gwneud gan blant Llanbedrog ac eitemau eraill gan blant Soar, derbyniodd y plant wobrau ariannol am eu gwaith llefaru.
Yna cafwyd oedfa’r hwyr a oedd o dan lywyddiaeth y Parch Glenys Jones. Cyfeilyddion y dydd oedd Glenys, Janet, Beti ac Arwyn gyda Gwenda Roberts, Hebron yn talu’r diolchiadau a chafwyd te rhwng y ddwy oedfa.
Ar 20 Mai, cafwyd wasanaeth gan y Parch Euros W Jones, Llangefni gyda’r testun ‘Y Sulgwyn’ (Y Sul Gwyn).
Cenhadon ar hyd y blynyddoedd yn mynd i’r India o Gymru, lle mae 98 y cant yn Gristnogion yn Malipur.
Ar 27 Mai, roedd testun gwasanaeth y bore yn dod o Samuel 1 Pennod 3, ‘Byw bywyd yma ar y ddaear a bod gyda gwybodaeth a gweledigaeth glir on cred’.
Yna yng nghyfarfod yr hwyr cafwyd testun o Brenhinoedd 18 ‘Hanes y Brenin Hesieciah ei ffydd, ffyddlondeb a’i ufuddod’.
Ladies Club
MEMBERS met for the final time before the summer break and travelled by coach to The Goat at Bryncir where they had a meal.
After the meal, Jill Hughes took over as president for the next two years, and Alison Evans stepped into the role of vice president.
Members will be informed of the date of the first meeting in September in due course.
There will be a committee meeting on Thursday, 21 June, at 7.30pm at the Nanhoren Hotel.
Cylch Meithrin
DIWRNOD agored Cylch Meithrin Nefyn ar fore Mawrth, 12 Mehefin, o 9.15yb tan 10.30yb.
Os ydych eisiau i’ch plentyn fynychu y cylch yn y blwyddyn ysgol 2018/19 galwch i mewn i’n gweld ni yn y caban gwyrdd yn iard Ysgol Nefyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.