THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

CAFWYD mis prysur iawn yng Nghapel Soar unwaith eto mis Awst ‘ma.

Ddydd Sul, 4 Awst roedd y gwasanaeth yng ngofal y CSSM a’r thema oedd o’r dechreuad, y Nadolig ymlaen.

Cadi o’r Ysgol Sul oedd yn cymryd rhan a phaned yn y festri ar y diwedd.

Ar 11 Awst ‘roedd y gwasanaeth yn nwylo y Parch Ioan Wyn Gruffydd – Testun o’r Datguddiad P21 adnod 10. 2 ddinas, Dinas dyn, a Dinas Duw.

Cafwyd a mwynhawyd y daith flynyddol ar 18 Awst, i Ynys Môn eleni, wedi ei drefnu gan Janet Wyn Hughes.

Cafwyd cinio yn y Victoria ym Mhorthaethwy.

Cafwyd cwmni y Parch Huw J Hughes a chyrraedd Moelfra, gweld y Bad Achub a hanes Dic Evans, arwr a dderbyniodd dwy Fedal Aur.

Cafwyd gwasanaeth yng Nghapel Carmel i ddilyn – Testun ‘Yr Helfa Bysgod.’

Ar 25 Awst cafwyd cwmni Arwel Williams, Caernarfon â’r testun o efengyl Mathew, Pennod 5, Cariad Duw a gweithredu mewn Cariad a Gweddi.

Cydymdeimlwyd â theulu y Dr Robyn Lèwis, y cyn archdderwydd ac anfonwyd cofion at rai sydd yn yr ysbytai.

Pensioners Club

A MEETING will be held at Y Ganolfan on Tuesday, 3 September.

Amgueddfa Forwrol Ll?n

NOS Iau, 29 Awst am 7.30yh bydd John Dilwyn Williams yn cadw cwmni ac yn trafodi ‘Y Ffordd Dyrpeg i Borthdinllaen’, tâl mynediad £3 a chroeso cynnes iawn i bawb.

Mae’r amgueddfa, siop a’r caffi ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul, 10.30yb i 4yp.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]