THE latest community news from Pistyll
Merched y Wawr
YNG nghyfarfod mis Mai croesawodd Gwyneth bawb i’r ganolfan gan ddweud ei bod yn falch o weld Eunice wedi gwella ar ôl ei llawdriniaeth, a hefyd cydymdeimlo efo Beti ar farwolaeth ei merch, Janice.
Cytunwyd i’r un swyddogion barhau eto flwyddyn nesaf a thrafodwyd y trip yng Ngorffennaf, a threfniadau dathlu pen-blwydd y gangen yn 50 ddiwedd y flwyddyn.
Noson o frethyn cartref gafwyd, gan gychwyn efo Megan yn dangos het arbennig wedi ei gwneud o ddail palmwydd a gafodd pan oedd ar y traeth yn y Caribi a dangosodd ei llun yn “Rose Queen” yng Ngharnifal Nefyn pan oedd yn 13 oed.
Yna cafwyd hanes Pont y Cim sy’n mynd dros Afon Llyfni, gan Janet Wyn.
Soniodd am y cysylltiad efo Stad Cefn Amwlch - roedd ganddynt dir yng Nghaernarfon yn 1609 ac roedd y ddau frawd o’r stad ar eu ffordd adref ar ôl bod yn casglu rhent ac yn croesi’r sarn dros Afon Llyfni pan gawsant eu rhuthro gan ladron a lladdwyd John, un o’r brodyr ac aeth y brawd arall adref ond yn lle dial, rhoddodd Catrin Bwcle £20 i godi pont yno ac erbyn 1616 roedd yn pont gul ar gyfer ceffyl a throl yn barod.
Wini aeth â ni i fyd yr arlunydd wedyn gan ddangos y ffordd mae yn datblygu ei lluniau o sgetses efo beiro ar ddarnau o bapurau, i arbrofi efo efo gwahanol weadau, a difyr oedd gweld rhai ar ei hanner ac wrth gwrs y rhai gorffenedig.
I orffen soniodd Eunice am rai o’i theithiau cerdded gan fanylu ar ei thaith i Goed y Bleiddiau, Maentwrog.
Megan enillodd un o luniau Wini fel raffl ac Eurwen gafodd wobr Eunice.
Yna cafwyd te a chacen flasus iawn gan Janet Wyn a Megan a diolchwyd i bawb ar y diwedd gan Eunice.
Ar fore braf ym Mai cychwynnodd criw bach o’r aelodau am Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.
Roedd tair blynedd ers ein hymweliad ddiwethaf ond rhaid oedd dychwelyd i’w weld ar ei newydd wedd a chawsom mo’n siomi.
Yng nghyntaf cawsom baned-diolch i Eunice a Wini.
Yna daeth Jessie John i’n tywys i’r ty.
Roedd tân yn llosgi ar yr aelwyd a chawsom groeso yr un mor gynnes â’r tân gan Jessica oedd yn for o wybodaeth am y teulu a’r lle.
Tro yma cawsom fynd i fyny’r grisiau a thrwodd i’r bwtri a gweld y celfi fyddai’r teulu wedi eu defnyddio.
Yn y beudy edrychom ar ffilm fer a gweld lluniau rhai eraill a gollwyd o’r ardal yn ystod y rhyfel.
Yna daeth Sian Griffiths atom i sôn am y datblygiadau newydd oedd wedi digwydd.
Paned wedyn, a gwahanol gacennau ac wrth gwrs roedd rhaid profi bob un!
Dyma dair awr ddifyr dros ben, ac i goroni’r cwbwl, yn arbennig i Mrs Thomas a Mair Mynydd, fe ganodd y gog yn y coed gerllaw.
Ymlaen â ni wedyn wysg ein trwynau i lawr lonydd bach difyr, heibio i Gynfal Fawr a Thyddyn y Merched - sgwn i beth oedd hanes yr enw hwnnw - addas iawn ein bod ni fel aelodau o ferched y Wawr wedi sylwi arno ynte?
Yna rhywsut neu gilydd fe gawsom ein hunain mewn lôn gul, gul nes oedd pawb yn dal eu hunain i mewn i fedru mynd drwyddi, ac roedd hynny’n anodd ar ôl yr holl gacennau, a chyrraedd yn y diwedd ger Oakley Arms.
Ymlaen â ni wedyn heibio Llyn Mair i Lanfrothen gan stopio yn Brondanw am baned a sbecian ar yr ardd.
Gorffennwyd y pnawn yng Nghricieth, ac wrth gwrs roedd rhaid cael hufen iâ i orffen diwrnod arbennig o ddifyr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.