THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) a Carmel (Bedyddwyr): Dim gwasanaethau ym mis Awst.

Picnic y pentre

BYDD picnic blynyddol y pentre yn cael ei gynnal yn Neuadd Pantyfedwen ddydd Sadwrn, 3 Awst am 3yp.

Y thema eleni yw ‘Te-parti Sali Mali’ i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 oed!

Y gystadleuaeth i blant yw i ddylunio cerdyn pen-blwydd.

Y beirniaid fydd Dafydd Jones a Mererid Jones. Bydd y neuadd ar agor i baratoi’r byrddau picnic ar gyfer y gystadleuaeth am 3yp a bydd y beirniadu’n digwydd am 4yp.

Croeso cynnes i bawb, gyda mynediad am ddim. Dewch i fwynhau prynhawn i’r teulu cyfan.

Cneifio Bont Shears

BYDD Cneifio Bont Shears eleni yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn y Bont ar ddydd Sul, 4 Awst, ac i ddechrau am 9yb. Croeso cynnes i bawb, yn gystadleuwyr a gwylwyr.

Strata Florida Abbey

THERE will be a ‘summer crafternoon’ at Strata Florida Abbey, with Wild Fun with Woodland Animals, starting today (Wednesday, 31 July) and continue on Wednesdays throughout the summer holidays at the abbey, from 1pm until 4.30pm.

Make pencil toppers, and create colour-in masks of your favourite woodland animals too!

On Saturday, 3 August, from noon until 4.30pm, there will be Folk Tales and Legends at the abbey. Join them for an afternoon of stories, accompanied by harp music and poetry. Learn about local folk tales and legends.

Normal admission applies for both events. For more events, visit: www.gov.wales/cadw

Rhydfendigaid

MWYNHAODD plant yr Ysgol Sul eu trip blynyddol ar ddydd Sul, 30 Mehefin. Aeth llond bws o blant a rhieni lawr i Abertawe gan fwynhau’n fawr iawn yng Nghanolfan Hamdden LC2.

Cafwyd orig yn Siop Fferm a Chaffi Cwmcerrig ar y ffordd lawr a swper yng Nghaerfyrddin ar y ffordd nôl.

Diolch i Nerys yrru yn ofalus ac i Llinos a gweddill y rhieni am gymryd gofal o’r trefniadau.

Bu’r Ysgol Sul yn cystadlu yn y carnifal ar 13 Gorffennaf. Gwnaeth plant yr Ysgol Sul ennill y fflôt orau eleni eto o dan ofal Ann Williams, Jên Ebenezer a rhai o’r rhieni.

Cymrodd y plant ran hefyd fel parti canu gyda Gwenno Evans fel unawdydd yn y gwasanaeth awyragored yn Ystrad Fflur ddydd Sul, 28 Gorffennaf gan gloi tymor llawn gweithgarwch. Diolch i Gwenno Humphreys, Delun Davies, Gwenno Evans, Cain a Jess Owen, Buddug ac Anest Jones, Elen a Mari Hughes a Rhys Williams am gymryd rhan, a hynny adeg gwyliau ysgol!

Lyn Ebenezer, un o aelodau ffyddlon Rhydfendigaid oedd yn annerch yn y gwasanaeth.

Bydd yr Ysgol Sul yn ail-agor ar 8 Medi ar ôl gwyliau’r haf, a bydd croeso cynnes nôl i bawb ac i unrhyw blentyn arall sy’n dymuno ymuno â’r Ysgol Sul sy’n cwrdd yng Nghapel Rhydfendigaid am 11yb.

Cafwyd dau drip i Soar y Mynydd yn ystod yr haf; y cyntaf ym mis Mai i wrando ar Lyn Ebenezer o Rydfendigaid yn pregethu ac ym mis Gorffennaf i wrando ar y Parch R Alun Evans, gan fwynhau te yn y Talbot ar ôl y ddwy oedfa.

Edrychir ymlaen yn awr at y trip a fydd yn mynd i Ddolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths a Chapel John Hughes ym Mhotrobert ar y cyntaf o fis Medi.

Os am ddod ar y trip, cysylltwch â Neli Jones – 01974 831695.

Bydd y bws yn gadael am 11yb – yn syth ar ôl oedfa’r bore yn Rhydfendigaid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]