THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) - 13 Hydref: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, Cwrdd Diolchgarwch gyda’r Parch Elwyn Pryse yn pregethu. Darperir lluniaeth ysgafn ar ôl yr oedfa.

Carmel (Bedyddwyr) - 13 Hydref: 2yp, ymuno â Chwrdd Diolchgarwch Rhydfendigaid.

Noson Lawen

BYDD Cwmni Da yn ffilmio’r rhaglen Noson Lawen ar gyfer S4C ym Mhafiliwn y Bont o 17 i 20 Hydref.

Yn cymryd rhan ar nos Iau, 17eg fydd Dylan Ebenezer yn cyflwyno Robyn Lyn, Gwawr Edwards, Ifan Gruffydd, Bwca, Bois y Rhedyn, Nest Jenkins, Cennydd Jones, Côr Ysgol Henry Richard a Lili Rose a Gwenno Humphreys (tocynnau ar gael gan Neli Jones – 01974 831695).

Ar nos Wener, 18fed bydd Trystan Llyr yn cyflwyno Ryland Teifi, Lloyd Macey, Danielle Lewis, Bois y Gilfach, Tom Mathias, Guto Jones, Noa Potter Jones, a Chôr Unedig Ysgolion Pontrhydfendigaid, Mynach a Syr John Rhys (tocynnau – Megan Jones 01970 612768).

Ar nos Sadwrn, 19eg Caryl Lewis fydd yn cyflwyno Cleif Harpwood a Geraint Cynan, Doreen Lewis, Sorela, Elidyr Glyn, Mellt, Gareth Aled, Meilyr Sion, Ela Mablen Griffiths-Jones a Chôr Ysgol Gynradd Aberaeron (tocynnau gan Gwion James 01570 422556).

Ac i gloi ar nos Sul, 20fed gyda noson ‘Nadolig yr Ifanc’ bydd Ifan Gwilym Pritchard yn cyflwyno Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, Lewys, Manw Lili Robin, Elan Catrin Parry, Bechgyn Ysgol Plasmawr, Mared Jeffrey, Jada a Casey Lane, Owain Sion, Leusa, Rhyddid a Brython Trystan (tocynnau – Arwel Jones 01570 471358).

Pris y tocynnau yw £5 y noson, gyda’r elw’n mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 ac achosion da eraill lleol).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]