THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) - dydd Sul, 2 Chwefror: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, Gwasanaeth yr Ofalaeth yng Nghapel Swyddffynnon, gyda’r Parch Wyn Rhys Morris.

Carmel (Bedyddwyr) - dydd Sul, 2 Chwefror: 2yp, Huw Roderick.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD Cinio Santes Dwynwen blynyddol Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch eleni yng Nghlwb Bowlio Tregaron, ar nos Wener, 24 Ionawr.

Cafwyd croeso arbennig yno, gyda’r ystafell wedi ei haddurno’n arbennig ar gyfer dathlu G?yl Santes Cariadon Cymru, gyda chalonnau a rhosynnau coch ym mhob man.

Roedd yn hyfryd gweld cynifer o aelodau a ffrindiau yn bresennol.

Croesawyd pawb gan Joan Davies, llywydd y gangen, ac estynnodd gydymdeimlad â’r rhai a oedd wedi colli annwyliaid yn ddiweddar.

Offrymwyd y gras cyn-bwyd gan Lyn Ebenezer.

Roedd y cinio a goginiwyd gan Connie, yn cael ei chynorthwyo gan aelodau eraill o’r clwb bowlio, yn flasus dros ben, a diolchwyd iddyn nhw ac i’r rhai fu’n trefnu’r noson, sef Jên a Joan, gan yr islywydd, Myfanwy Huws.

Dymunodd Myfanwy yn dda hefyd i Joan ac Edgar Davies ar ddathlu eu Priodas Ruddem.

Ar ôl i bawb gael eu ‘gweddill a’u gwala’ cafwyd cyfle i gymdeithasu cyn troi am adre’.

Enillwyd gwobrau’r raffl gan Selwyn Jones, David John Jones, Edgar Davies, Margaret Jones, Llinos Jones a Gwenda Hughes.

Y Beudy, Strata Florida

TO celebrate Welsh Music Day with old Welsh songs, on Thursday, 6 February at 6pm there will be bilingual fun sessions for beginners of all ages with ukuleles, in partnership with Cered and Steffan Rees at Y Beudy, Strata Florida. Contact Gill on 01974 282771 or [email protected] for more information.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]