THE latest community news from Pwllheli
Merched y Wawr
Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor newydd dan lywyddiaeth Rhiannon Hughes.
Wedi cyd-ganu Cân y Mudiad i gyfeiliant Mari Evans cafwyd munud o dawelwch i gofio am y ddiweddar Eirlys Davies Williams.
Roedd Eirlys wedi bod yn aelod ffyddlon a gweithgar o’r gangen am flynyddoedd lawer a bydd chwithdod garw o’i cholli.
Y g?r gwadd oedd Ifan Hughes, Llanaelhaearn sydd wedi cyhoeddi llyfr gyda’r teitl Cap Gwlân a’r Oriau Mân.
Daeth yn amlwg yn ystod ei sgwrs ei fod yn ddyn ei fro a’i gymuned a phentref Llanaelhaearn yn binacl ar y cyfan ac ymfalchïai ym mhob moddfedd o’r lle a’r trigolion.
Atgoffodd yr aelodau fod yn rhaid i bawb deithio drwy Lanaelhaearn wrth fynd a dod i Ben Ll?n!
Diolchwyd iddo ac i westeion y te, sef Margaret Gruffydd, Lena Pritchard, Dilys Williams a Mair Lloyd Davies, gan Marilyn Lewis.
Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, 4 Hydref.
Y wraig wadd fydd Bethan Wyn Jones yn sôn am Feddyges Bryn Cannaid.
Croeso cynnes iawn i aelodau newydd.
Gwasanaethau
Dyddiadur Capel y Drindod:
Iau, 27 Medi – 10yb, te a thost yn Efailnewydd;
Gwener, 28 Medi – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala.
Sul, 30 Medi – 10yb a 5yp, Parch Pryderi Llwyd Jones. 2yp, Ysgol Sul yr Oedolion.
Llun, 1 Hydref – 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 2 Hydref – 7yh, Y Sied.
Mercher, 3 Hydref – 7yh, Clwb Ieuenctid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]