THE latest community news from Soar y Mynydd

Soar y Mynydd

CAFWYD gwasanaeth bendithiol iawn y Sul diwethaf o dan ofal y Parch Eifion Jones, Dinbych.

Diolchwyd i bawb a ddaeth i gyd-addoli a hyfryd oedd cael cwmni rhai o Bwlch y Groes, Sir Benfro.

Gwnaed y croesawu gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Neli Jones, Pontrhydfendigaid.

Disgwylir y Parch Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog, i wasanaethu’r Sul nesaf am 2yp. Ar 2 Medi disgwylir Cliff Williams, Cei Bach. Croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]