THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD y gwasanaeth ddydd Sul diwethaf am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu a chafwyd neges amserol a phwrpasol fel arfer.
Llongyfarchwyd Gwenllïan Llwyd ar dderbyn gradd dosbarth cyntaf, Heledd Llwyd a Tania Rees ar dderbyn gradd meistr a Rhydian Thomas ar dderbyn ei PHD; hefyd dymunodd y gweinidog yn dda i bawb sy’n sefyll arholiadau yn ystod yr wythnosau nesaf neu yn dechrau swyddi newydd. Yr organyddes oedd Enfys Llwyd.
Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 15 Gorffennaf am 10.30yb
Canu Gwlad
NOS Sadwrn bydd yr amryddawn Clive Edwards yn ôl yn diddanu yn Nhafarn Glanyrafon drwy wahoddiad Hefin a Megan. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr, felly dewch yn llu i gefnogi ac i fwynhau.
Gwyl y Pentref
CYNHELIR Gwyl y Pentref yn ystod y penwythnos, gyda helfa drysor ar droed nos Wener a’r carnifal ddydd Sadwrn. Llywyddion yr wyl fydd Mr a Mrs Jones, Rhydowen Fach. Thema’r fflôt: ‘Yr Ysgol’. Yn dilyn y carnifal a’r mabolgampau bydd Ras Sion Cwilt, gyda rownderi a’r barbeciw yn dilyn y ras fawr. Penwythnos o hwyl a sbri.
Pêl-droed
BRAF oedd clywed fod Caio Evans, Dwynant wedi derbyn gwobr yn noson wobrwyo Clwb Pêl-droed pre-academy Caerfyrddin yr wythnos ddiwethaf.
Taith gerdded
DDYDD Sul, 8 Gorffennaf bydd aelodau capeli’r Smotyn Du yn cymryd rhan yn eu taith gerdded noddedig flynyddol.
Bydd y daith yn dechrau yng Nghapel y Fadfa ac yn gorffen yng Nghapel Llwynrhydowen; y cerdded yn dechrau am 1.30yp. Eleni bydd yr arian yn mynd tuag at hyrwyddo priodas gyfartal a gwaith yr elusen MIND Cymru. Os nad ydych am gerdded eich hunan, cofiwch noddi’r rhai sy’n gwneud. Gobeithir y bydd criw lluosog yn cerdded gydag arian sylweddol yn cael ei godi.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.