THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 10.30yb gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Cafwyd anerchiad am beth yw bod yn Undodwr a braf oedd gweld cymaint wedi troi allan i’r oedfa.

Yr organyddes oedd Carol Rees.

Llongyfarchwyd Carwyn Griffiths oedd wedi graddio yn ddiweddar a Teleri Evans oedd hefyd wedi graddio a chael swydd.

Diolchodd y gweinidog i bawb fu’n tacluso o gwmpas y fynwent a’r capel yn ddiweddar.

Bydd yr oedfa nesaf mewn pythefnos am 1.30yp gyda’n gweindog yn rhannu’r cymun.

Pêl-droed

MAE Caio Evans, Dwynant wedi profi ei hun yn bêl-droediwr da yn ddiweddar.

Daeth clod arall iddo’r wythnos ddiwethaf wrth iddo gael ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn o dan 10 oed gyda thîm pêl-droed Ffostrasol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]