THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

A HITHAU’N Sul y Cofio, cynhelir Oedfa Undebol arbennig yng Nghapel y Cwm ddydd Sul i aelodau Capeli Undodaidd Bröydd Marles a Gwenog ac yn ôl yr arfer, croeso cynnes i unrhyw un arall i ymuno yn y gwasanaeth neilltuol hwn. Yn gwasanaethu bydd ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Bydd yr oedfa nesaf yn y capel uchod ar ddydd Sul, 17 Tachwedd am 10.30yb gyda’n gweinidog yn rhannu’r cymun.

Yn dilyn yr oedfa hon, bydd pwyllgor o gyfarfod yr eisteddfod, felly gofynnir am gefnogaeth unwaith eto i’r oedfa foreol hon.

Ffair Nadolig

CYNHALIWYD y Ffair Nadolig brynhawn Gwener ddiwethaf yn y Neuadd Goffa, gyda’r elw i’r Ysgol Gynradd a Chylch Meithrin y pentref.

Atgofion Ruth Mynachlog

NOS Fercher cynhelir noson arbennig yn Theatr Felinfach am 7.30yh, sef lansiad newydd o gyfrol Ruth Mynachlog. Bydd cyflwyniadau ar lafar, mewn ffilm ac ar gân gan Ferched y Wawr Y Garreg Wen, Bryniau a Thalgarreg, ynghyd â Chôr Bro Ruth. Ceir cyfle hefyd o weld talentau lleol Talgarreg, yn blant ac oedolion.

Mynediad am ddim, ond rhaid archebu sedd ymlaen llaw drwy ffonio’r theatr ar 01570 570 697 i wneud yn si?r o’ch sedd.

Carolau’r Nadolig

AR nos Sul, 1 Rhagfyr cynhelir noson o Garolau’r Nadolig yng Nghapel y Fadfa am 7yh.

Y llywydd fydd Donald Morgan, Capel Dewi; arweinydd: Keith Evans, Llandysul; organydd: Martin Griffiths, Llandysul; a’r artistiaid fydd ieuenctid y capel.

Mynediad drwy raglen (£3), ar werth yn awr gan aelodau’r capel, gydag elw’r noson yn mynd tuag at waith cynnal a chadw’r capel.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]