THE latest community news from Talgarreg

Canu Gwlad

NOS Sadwrn, 12 Awst, bydd y ddeuawd newydd ‘Harmoneli’ o Sir Fôn yn dod ar ymweliad â Gwesty Glanyrafon, ar wahoddiad Hefin a Megan. Dewch i glywed Karen a Gareth yn mynd drwy eu pethau am y tro cyntaf yn yr ardal.

Cymdeithas yr Henoed

CYNHELIR trip a chinio’r Gymdeithas Henoed eleni ar ddydd Iau, 10 Awst, gan adael tu allan Tafarn Glanyrafon am 10yb.

Byddwn yn ymweld ag ardal Sir Benfro, gan alw ym Melin Tregwynt ac yna â siop Vincent Davies, ger Hwlffordd. Dychwelwn i Dalgarreg erbyn 5.45yh ar gyfer swper yn Nhafarn Glanyrafon.

Yn ôl yr arfer gofynnir i bawb i gyfrannu at gostau’r bws. Bydd swper am ddim i’r rhai sydd dros 70 oed ac yn byw o fewn cyfeiriad post Talgarreg.

Ni chynhelir y trip os nad fydd nifer digonol yn mynd, ond mi fydd y swper yn cael ei gynnal beth bynnag. Os nad ydych am ddod ar y trip, mae croeso cynnes iawn i chi fynychu’r swper yn unig.

Os hoffech ymuno â ni ar gyfer y trip a/neu’r cinio a wnewch chi roi gwybod dros y ffôn erbyn ddydd Llun, 7 Awst, i Gwyneth ar 590482.

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 10.30yb yng nghwmni’r gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Yr organyddes oedd Susan Davies.

Cafwyd ganddo neges ar y pethau pwysig yn ein bywydau ac i beidio â chymryd pethau yn ganiataol.

Diolchodd i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y daith gerdded yn ddiweddar, yn enwedig y cacennau.

Hefyd estynnodd ddiolch cynnes i’r merched am baratoi’r te adeg y Cwrdd Pawb Ynghyd.

Estynnodd y gweinidog hefyd longyfarchiadau i Ronnie Jones ar dderbyn Medal Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am wasanaeth hir oes i’r diwydiant amaethyddol yn y Sioe Frenhinol eleni. Roedd ef yn derbyn ei fedal mewn seremoni arbennig yn y Sioe Fawr brynhawn Llun.

Penderfynwyd cynnal Cymanfa Garolau unwaith eto eleni ar nos Sul, 26 Tachwedd yn y capel.

Bydd yr oedfa ddydd Sul nesaf am 3yp gyda’n gweinidog yn gwasanaethu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]