THE latest community news from Trefor

Y Sul

FESTRI Maesyneuadd: 10.30yb, Ysgol Sul i’r Plant a’r Oedolion; 5.30yh, Parch Olwen Williams, Tudweiliog.

Bocsys Sgidiau

AETH 57 o focsys sgidiau yn llawn anrhegion i blant a theuluoedd yn nwyrain Ewrop o Drefor ddydd Sadwrn.

Trefnwyd yr ymgyrch gan Eglwys Maesyneuadd ac Ysgol yr Eifl.

Diolch yn fawr i bawb a lenwodd focsys ac am bob rhodd ariannol.

Carcharorion

NOS Sul yn Festri Maesyneuadd, cafwyd oedfa a chyfle i ysgrifennu cardiau at garcharorion cydwybod a rhai sydd wedi’u carcharu ar gam.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]