Mae gan y bardd a’r llenor Menna Elfyn gyfrol o gerddi newydd sbon, sef Tosturi.

Mae’r darlun clawr trawiadol wedi ei ddarlunio gan Meinir Mathias – llun o Catrin Glyndŵr, merch Owain Glyndŵr, ac un o’r merched sydd â cherdd iddi – ymysg nifer o ferched eraill – yn y gyfrol newydd hon.

Prif thema’r gyfrol, a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau Barddas, yw ymateb y bardd i’r camweddau a wnaed yn erbyn menywod dros y canrifoedd, ond mae yma hefyd gerddi hunangofiannol, cerddi wedi’u hysgogi gan y cyfnodau clo diweddar, cerddi gwleidyddol a cherddi am fyd natur.

Mae degawd a mwy wedi mynd heibio ers iddi gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yn y Gymraeg yn unig, gyda dwy o’i chyfrolau diweddar, Murmur (2012) a Bondo (2017) wedi eu cyhoeddi’n ddwyieithog (ac yn wir, mae llawer o’i gwaith wedi ei drosi i wahanol ieithoedd ar draws y byd).

Bydd hon yn gyfrol arbennig iawn, felly, gyda nifer o gerddi newydd – rhai sy’n moli, rhai yn pryfocio a rhai yn tosturio.

Menna Elfyn hefyd yw Bardd y Mis, BBC Radio Cymru, ym mis Mawrth eleni, felly cofiwch wrando rhag ofn y bydd hi’n darllen rhai cerddi o’i chyfrol newydd!

I lawer, hi yw llais y ferch mewn barddoniaeth Gymraeg, yn dehongli profiadau merched ond hefyd yn dehongli bywyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n berthnasol iawn, felly, mai hi yw Bardd y Mis a hithau’n fis i ddathlu a chydnabod merched mewn hanes.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, cyhoeddwyd pennod newydd o Bodlediad Barddas: Y Merched.

Mae Elinor Wyn Reynolds yn trafod sawl thema gyda Casi Wyn, Bardd Plant Cymru, Sian Northey a Menna Elfyn – barddoniaeth, llenyddiaeth yn gyffredinol, ysgrifennu, a chanu mewn band! Bydd y beirdd hefyd yn darllen peth o’u gwaith, gan gynnwys cerdd “ffyrnig” gan Menna Elfyn.

Gallwch wrando drwy ddilyn y ddolen yma: https://linktr.ee/barddas.

• Cynhelir lansiad Tosturi gan Menna Elfyn yn fyw yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin ar nos Iau, 7 Ebrill. Gobeithir arddangos ychydig o waith Meinir Mathias a chlywed ambell gân gan Fflur Dafydd, yn ogystal â gwrando ar sgwrs rhwng dwy hen ffrind, Menna Elfyn ac Elinor Wyn Reynolds. Dyma fydd lansiad “go iawn” cyntaf Barddas ers diwedd 2019.