Treuliodd Wyndham Jones wedi blynyddoedd y cyfnod clo yn cofio am gymeriadau lliwgar bro ei febyd ynghyd a ffordd dra wahanol o fyw cyfnod y 40au a’r 50au.

Cafwyd ymateb dda i ffrwyth ei lafur yn noson gyhoeddi y gyfrol Cribyn - Bro fy Mebyd.

Roedd Ysgol Cribyn dan ei sang ar gyfer yr achlysur nos Wener, i Gorffennaf.

Yn y llun uchod mae Ronald Thomas (chwith) yn cyflwyno copi cyntaf o’r llyfr i’r awdur. Dechreuodd y ddau yn ddisgyblion yn yr ysgol ar yr un diwrnod 74 mlynedd yn ôl, ac maent wedi bod yn ffrindiau mynwesol ers hynny.

Roedd Terry Jones a Tudor Jones - dau hen ffrind arall - hefyd yn bresennol i ddathlu’r achlysur â chân neu ddwy o’r hen amser.

Cyhoeddwyd y llyfr gan Gymdeithas Clotas, a chyflwynir elw’r gwerthiant, ar gais yr awdur, i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwerthwyd dros 130 o gÖpiau wedi’i harwyddo gan Wyndham ar y noswaith a mae’r llyfr ar werth (£6.95) yn Siop y Smotyn Du, Llambed, a Swyddfa’r Post, Felin-fach.