Cafodd plant Ysgol Penrhyncoch cyfle i roi cynnig i enwi stâd o dai newydd yn y pentref.

Meddai Mabli, un o disgyblion Dosbarth 4: “Pan glywon ni am hyn roedden ni’n teimlo’n arbennig iawn ac yn bwysig!

“Pleser oedd cael gweithdai gwych gydag Angharad Fychan, ysgrifennydd Enwau Lleoedd Cymru.

“Yr oedd hyn yn plethu yn dda gyda gwaith ein dosbarth ar y thema Cynefin. Edrychon ni ar fapiau a thrafod ystyr gwahanol enwau’r ardal e.e. Garth - dyma hen enw rhan uchaf y pentre (Penrhyn Uchaf gynt), a Garth Uchaf a Garth Isaf yw’r ddwy stryd gyferbyn â’r neuadd. Ond mae’r enw yma yn dechrau diflannu oddi ar gof pobl. Ystyr Garth yw ‘cefnen’ - mae’n ddisgrifiad o’r trwyn o dir sy’n codi fyny o Cae Mawr i gyfeiriad Garej y bysys.

“Roedden ni wedi awgrymu Gwar y Garth fel yr enw am y rhesymau yma... fe wnaethom ni ddewis Gwar fel cychwyn yr enw er mwyn rhoi amrywiaeth i enwau ystadau yn y pentref, mae nifer fawr o ‘Maes y’ ym Mhenrhyncoch. Mae Gwar hefyd yn enw adnabyddus achos Cae Gwar Felin oedd enw’r cae lle mae Glan Seilo a Ger-y-cwm ar y map degwm. Fe wnaethom ni ddewis Garth achos mae’n gyfle gwych i gadw’r enw ‘Garth’ yn fyw. Hefyd, mae Gwar yn rhoi cyflythreniad gyda Garth.

“Ar ôl clywed y newyddion da am yr enw ymateb Jac, un o ddisgyblion y dosbarth, oedd ‘Roedd gweithdy Angharad Fychan yn gyffrous, yn hwyl ac yn ddiddorol iawn! Pan wnaeth Mrs L Evans dweud wrthon ni eu bod nhw wedi dewis yr enw Gwar y Garth roedden ni i gyd wedi gweiddi hwrê a neidio lan i’r awyr!’

“Diolch yn fawr iawn i Angharad Fychan am y gweithdai. Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr i weld yr enw ar arwydd ar ben y stâd newydd ac ar fap yn y dyfodol.”

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]